Ynglŷn â'r rôl
Ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau eraill?
Rydym yn chwilio am Berson Hwyluso Gweithgareddau brwdfrydig a chreadigol i ymuno â’n tîm ym Mhorth Gofal.
Yn y rôl werth chweil hon, byddwch yn cynllunio ac yn darparu amrywiaeth o weithgareddau therapiwtig sy’n meithrin lles emosiynol, ymgysylltiad gwybyddol a chysylltiadau cymunedol i’n trigolion o fewn Cartrefi Gofal yr Awdurdod Lleol.
Os oes gennych ddawn i ysbrydoli pobl ac rydych wedi ymrwymo i hyrwyddo profiadau boddhaus mewn amgylchedd cartref gofal, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae angen bod yn hyblyg i weithio rhai nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch â Amanda Smith ar Amanda.Smith@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.