Am Y Gwasanaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg yng Nghymorth Cynnar Caerdydd.
Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru wedi’i thargedu at deuluoedd â phlant dan 4 oed mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae elfennau craidd y rhaglen wedi dod o amrywiaeth o opsiynau sydd wedi’u profi i ysgogi canlyniadau gwell i blant a'u teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gofal plant rhan-amser o ansawdd am ddim i blant 2-3 oed;
- Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd gwell;
- Mynediad at Gymorth Rhianta
- Datblygiad Iaith Cynnar
Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yng Nghaerdydd yn eistedd o fewn Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae Cymorth Cynnar Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Caerdydd. Mae Cymorth Cynnar Caerdydd yn cynnwys nifer o dimau amlbroffesiynol sy'n cydweithio â’i gilydd, yn ogystal â phartneriaid, i helpu teuluoedd.
Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac yn ymdrechu bob amser i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol sy'n gwneud i’n gweithlu gwych deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Dyma rai enghreifftiau o’r ffordd rydym yn ymdrechu i gyflawni hyn:
- Hawl i wyliau blynyddol hael.
- Trefniadau gweithio y gellir eu haddasu, a all gynnwys cynllun fflecsi sy'n eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi ac sy'n bodloni anghenion y gwasanaeth. (os yw’n berthnasol)
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy.
- Mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu pellach i roi cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa gyda ni.
- Mynediad at rwydweithiau cydraddoldeb cyflogeion ar gyfer cymorth, arweiniad a chymdeithasu (mae'r rhwydweithiau hyn yn cynnwys y Rhwydwaith Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, y Rhwydwaith Gofalwyr, y Rhwydwaith Anabledd, y Rhwydwaith LHDT a’r Rhwydwaith Menywod).
- Cyfleoedd gweithio hybrid (os yw'n berthnasol)
- Mynediad at gymorth lles cyflogeion cynhwysfawr.
- Mynediad at y Platfform Manteision i Gyflogeion MyAdvantages (sy'n cynnwys mynediad at Gynllun Beicio i'r Gwaith y Cyngor a gostyngiadau unigryw gyda manwerthwyr fel Asda, Tesco ac Ikea).
Am Y Swydd
Mae’r swydd hon yn cael ei rheoli gan y Swyddfa Monitro Lleoliadau a Chontractau Gofal Plant.
Pwrpas y swydd hon yw arwain a chefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth Lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg, gan sicrhau bod lleoliadau gofal plant yn cael eu dyrannu, eu monitro a'u rheoli'n effeithiol yn unol â chanllawiau a gofynion statudol Llywodraeth Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli'r tîm Lleoliadau Gofal Plant ac yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gynllunio, trefnu a darparu lleoliadau gofal plant, gan gynnwys lleoliadau sydd angen cymorth ychwanegol. Bydd yn cefnogi'r gwaith o fonitro a dadansoddi data presenoldeb a lleoliad, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei defnyddio i wella canlyniadau i blant a theuluoedd.
Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan weithredol o fewn y Panel Allgymorth Dechrau'n Deg, gan wneud penderfyniadau ynghylch cymhwysedd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Allgymorth Dechrau'n Deg lleol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a chymhellol gyda phrofiad amlwg o weithio mewn amgylchedd swyddfa a phrofiad o reoli llinell. Byddwch yn hyderus yn arwain tîm, yn cefnogi perfformiad a datblygiad, a sicrhau bod amcanion gwasanaeth yn cael eu cyflawni.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i reoli gofynion cystadleuol, blaenoriaethu llwythi gwaith a gweithio'n effeithiol i ddyddiadau cau mewn amgylchedd prysur. Byddwch yn gallu adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr, teuluoedd ac asiantaethau partner.
Byddwch yn hyfedr mewn cymwysiadau Office 365, gan gynnwys Outlook, Word ac Excel, ac yn gallu dangos sgiliau gweinyddol a rheoli data cryf. Bydd gennych hefyd y gallu i ddadansoddi gwybodaeth, datrys problemau, defnyddio menter a rheoli sgyrsiau anodd yn hyderus pan fo angen.
Mae sylw i fanylion, cywirdeb a pharodrwydd i gofleidio syniadau a ffyrdd newydd o weithio yn hanfodol.
Mae manylion llawn y swydd i’w gweld yn y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.
Mae’r Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac ieithoedd cymunedol eraill o fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch ag alice.ridding@caerdydd.gov.uk. Mae'r rôl hon yn gyfle gyrfa ardderchog i'r ymgeisydd cywir.
Swydd Dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2027 (opsiwn o bosibl i ymestyn ymhellach)
Mae’n rhaid i ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn ymgeisio trwy ddefnyddio SEC 1 (4.C.381). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau