Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Rhian Wyn Jones ar RhianWynJones@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 678824.
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 03/06/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio fel aelod o dîm ac ar ei ben/phen ei hun
Hunan-ysgogiad
Hyderus ac yn dangos menter
Personoliaeth bywiog, diplomyddol a chroesawgar.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol fel
•Diploma neu Radd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar
•Diploma neu CGC Lefel 4 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
•Diploma NNEB/CACHE
•Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar (Cyfrwng Cymraeg)
•Diploma Lefel 3 neu Lefel 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
•CGC Lefel 3 mewn Gofal ac Addysg y Blynyddoedd Cynnar/Gofal Dysgu a Datblygiad Plant
•Cymhwyster perthnasol arall.
Gweler gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru am restr o’r cymwysterau gofynnol i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru ac
Parodrwydd i weithio tuag lefel 5.
Dymunol
Cymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar lefel 4/5 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol
Cymhwyster Integredig Skills Active ar gyfer Gwaith Chwarae -Lefel 3
Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol
Amddifyn Plant
Codi a Thrin
Tystysgrif Cymorth Cyntaf
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio gyda phlant oed ysgol (rhwng 3 a 14 oed)
Profiad o ddarparu addysg a gofal blynyddoedd cynnar o ansawdd.
Profiad o oruchwylio staff neu wirfoddolwyr
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol ym maes darparu gofal dydd i blant oed ysgol.
Gallu cyfathrebu’n effeithiol gydag ystod eang o unigolion a mudiadau.
Dealltwriaeth o’r mathau o ffactorau sy’n effeithio ar fywydau plant a’u teuluoedd.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu a datblygu.
Gwybodaeth am y Dechrau’n Deg, Cwricwlwm i Gymru, Chwarae a’r Cynnig Gofal Plant
Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Gwybodaeth drylwyr am yr arfer orau wrth ofalu am blant hyd at 11 oed.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol ym maes darparu gofal dydd i blant oed ysgol.
Gallu cyfathrebu’n effeithiol gydag ystod eang o unigolion a mudiadau.
Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gyfle cyfartal.
Dealltwriaeth o chwarae a datblygiad plant a’r gallu i fodloni anghenion plant unigol gan ddangos ystod eang o sgiliau gwaith chwarae ymarferol.
Sgiliau cyfrifiadurol da
Dymunol
Trwydded yrru gyfredol lawn.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo Rheolwr y Feithrinfa i drosglwyddo gofal o safon uchel ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu meithrinfa Plas Pawb, gan sicrhau bod eu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol yn cael eu cwrdd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cymhorthydd a Prentis Meithrinfa
Prif ddyletswyddau
•Cynllunio a gweithredu rhaglenni gweithgaredd priodol ar gyfer y plant mewn cydweithrediad a Rheolwr y Feithrinfa a staff eraill, yn cynnwys myfyrwyr. Bydd holl rhaglenni gweithgaredd yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.
•Cyflwyno safon uchel o ofal, gan sicrhau bod anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol y plant yn cael eu cwrdd.
•Meddu ar dealltwriaeth lawn o system y Feithrinfa o gadw cofnodion ac arsylwi a chofnodi datblygiad unigol plant gan ddefnyddio’r system gweithiwr allweddol.
•Gweithio gyda’r rheolwr a chydweithwyr i sicrhau darpariaeth o ystod o offer sy’n ysgogi, gweithgareddau ac arddangosfeydd, dan do ac yn yr awyr agored, yn ddiogel, hapus a gofalgar sy’n annog y plant i chwarae’n rhydd.
•Sicrhau bod yr ardaloedd chwarae, dan do neu yn yr awyr agored, yn ddiogel, hapus a gofalgar sy’n annog y plant i chwarae’n rhydd.
•Gweithio ochr yn ochr â Rheolwr y Feithrinfa i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n cwrdd ag anghenion pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, gan sicrhau y rhoddir ystyriaeth ddyledus i genedl, diwylliant, hil, crefydd, iaith ac anabledd.
•Cysylltu â rhieni/gofalwyr, ac annog eu hymgyfraniad yn lleoliad eu plentyn yn y feithrinfa a’u datblygiad.
•Parchu a dilyn rhigolau ar gyfer babanod a phlant bach sy’n mynychu’r feithrinfa fel y amlinellir gan eu rhieni/gofalwyr.
•Cynorthwyo gyda’r gwasanaeth casglu plant o’r ysgol.
•Cynorthwyo i ddarparu diet cytbwys iach ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu feithrinfa yn cynnwys paratoi bwyd, cynorthwyo gyda bwydo’r plant, sicrhau bod amseroedd prydau yn achlysuron cymdeithasol, a chlirio yn dilyn prydau.
•Dilyn yr holl bolisïau a gweithdrefnau a nodir gan Gyngor Gwynedd a Meithrinfa Plas Pawb.
•Bod yn gyfarwydd a dilyn Isafswm Safonau Cenedlaethol ar gyfer gofal dydd llawn fel y amlinellir o fewn canllawiau cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW).
•Bod yn gyd-gyfrifol am warchod a hyrwyddo lles pob plentyn yn y feithrinfa, fel y gynhwysir yng Ngweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
•Meddu ar wybodaeth weithiol o egwyddorion ac amcanion y Prosiect Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Plant
•Meithrin cysylltiadau gwaith da gyda a meddu ar ddealltwriaeth o asiantaethau allanol a phobl eraill broffesiynol sy’n ymwneud a datblygiad a gofal plant unigol.
•Bod yn gyfrifol am ddatblygiad personol parhaus, trwy fynychu cyrsiau hyfforddiant perthnasol a meddu ar y wybodaeth diweddaraf ynghylch deddfwriaeth a rheolau sy’n berthnasol i’r swydd.
•Mynychu cyfarfodydd wythnosol o’r tîm, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd misol unigol ac arfarniadau blynyddol gyda Rheolwr y feithrinfa.
•Cydweithio gyda ac arwain cydweithwyr yn rheolaeth dyddiol domestig y feithrinfa, yn cynnwys sicrhau y cedwir y feithrinfa yn ddiogel, saff a glan trwy’r amser.
•Sicrhau y cyflawnir tasgau gofal plant penodol i’r safonau disgwyliedig, yn cynnwys cynorthwyo plant gyda bwydo, newid dillad, a thoiledau, yn cynnwys newid clytiau; cynnal o safonau uchel o hylendid trwy’r amser, cysuro a rhoi cynhesrwydd i blentyn gwael; a hysbysu ynghylch unrhyw arwyddion o salwch neu anaf, neu bryderon ynghylch cam-drin.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos ond gofyn gweithio ar rota hyblyg rhwng 8 y.b. a 6.y.h. Bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i’w gilydd.