[Mewnol] Arweinydd Tîm Hybiau Cymunedol a Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Dyddiad cau 29/03/2026
Cyflogwr
Torfaen County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Lleoliad
Torfaen
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
SWYDD FEWNOL. Mae'r swydd yma ar gael dim ond i gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) a weather asiantaeth sy'n gweithio i CBST ar hyn o bryd.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn chwilio am Arweinydd Tîm Hybiau Cymunedol a Gwasanaethau Llyfrgelloedd profiadol sy'n cael ei yrru gan werthoedd, i arwain gwasanaeth llyfrgelloedd modern, o ansawdd uchel sy'n hwb cymunedol hanfodol wrth galon bywyd lleol.
Gwybodaeth am y Rôl
Byddwch yn arwain cam nesaf trawsnewidiad llyfrgelloedd Torfaen, gan sicrhau bod ein llyfrgelloedd: • yn dal i fodloni eu rôl statudol a'u safonau proffesiynol, ac • yn gweithredu fel hybiau cymunedol bywiog sy'n cefnogi ymyrraeth gynnar, atal, llesiant a dyheadau. Byddwch yn atebol am berfformiad, ansawdd, cydymffurfiaeth a chynaliadwyedd y Gwasanaeth Gwybodaeth a Llyfrgelloedd, a hefyd yn hyrwyddo dull gweithredu dan arweiniad y gymuned sy'n dod â phartneriaid, trigolion a sefydliadau gwirfoddol i mewn i'n llyfrgelloedd mewn ffyrdd ystyrlon a phwrpasol.
Mae hon yn rôl uwch-arweinydd sy'n cyfuno cyfeiriad strategol, gafael weithredol ac arweinyddiaeth ddiwylliannol.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch ag Angela Price - angela.price@torfaen.gov.uk
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch âr rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr