SWYDD FEWNOL. Mae’r swydd yma ar gael dim ond i gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) a weather asiantaeth sy’n gweithio i CBST ar hyn o bryd
Ar hyn o bryd mae gan Wasanaethau Plant a Theuluoedd Torfaen swydd wag yn yr Hwb Cymorth a Diogelu Amlasiantaeth (MASSH). Mae gweithio amlasiantaeth yn nodwedd arwyddocaol o'r dull y mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi ei fabwysiadu i ddarparu gwasanaethau. Byddwch yn ymuno â thîm arloesol ac yn gweithio mewn amgylchedd blaengar, ymroddgar ac addysgiadol lle mae ymarferwyr yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.
Y tîm:
Rydym yn cefnogi plant o’r cyfnod cyn geni hyd nes iddynt gyrraedd 15 oed, gan ymateb i bob atgyfeiriad newydd sy'n dod i'r adran, a chwblhau asesiadau Gofal a Chymorth ac Amddiffyn Plant. Ein rôl allweddol yw sicrhau bod plant yn aros gyda'u teuluoedd lle bo hynny'n bosibl a sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diwallu'n briodol a bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Mae dull sy'n seiliedig ar gryfderau yn cael ei hyrwyddo o fewn y tîm. Mae achosion yn cael eu trosglwyddo i dimau tymor hir ar adeg Cyfarfod Gofal a Chymorth Cychwynnol, Cynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol neu Wrandawiad Llys Cychwynnol. Mae'r tîm yn elwa o Weithwyr Ymyrraeth i Deuluoedd, sy'n rhoi cymorth dwys i deuluoedd pan fydd argyfwng, er mwyn cynnig cymorth ochr yn ochr â chwblhau asesiadau.
Strwythur y Tîm:
1 Rheolwr Tîm
3 Rheolwyr Tîm Cynorthwyol
6 Gweithwyr Cymdeithasol
4 Gweithwyr Cymorth Cymunedol
7 Gweithiwr Ymyrraeth i Deuluoedd (Tîm Ymateb Cyflym)
1 Arweinydd Tîm Cyfeirio
1 Swyddog Cyfeirio
Yn eich rôl fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn:
-
Gweithio mewn amgylchedd tîm cefnogol gyda chyfleoedd i ddatblygu sgiliau wrth gynnal asesiadau a llunio cynlluniau gofal.
-
Cael mynediad at seilwaith rheoli, gyda rheolwyr sydd â chyfoeth o brofiad ac sy’n hawdd mynd atynt i gael cyngor a chymorth ac i wneud penderfyniadau.
-
Ennill profiad o weithio mewn lleoliad aml-asiantaeth a gyda gwasanaethau / gweithwyr proffesiynol eraill.
-
Cael mynediad at hyfforddiant ôl-gymhwyso a chyrsiau hyfforddi ehangach.
-
Cael mynediad at sesiynau goruchwylio misol a sesiynau myfyrio ymysg cymheiriaid.
-
Manteisio ar drefniadau gweithio hyblyg ac ystwyth, gan gynnwys yr opsiwn i gymryd gwyliau hyblyg
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Carley Smith, Rheolwr Tîm ar 01633 647794.
Mae'r swydd hon yn gofyn am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.