Neidio i'r prif gynnwys

[Mewnol] Gweithiwr Cymdeithasol Mabwysiadu Achlysurol

Dyddiad cau 19/11/2026

Cyflogwr

Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£41,177 - £43,149 a year (PS1) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

Lleoliad: Penrallt, Caernarfon

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Stevie Lee Thomas ar 0758544804 neu drwy e-bost stevieleethomas@gwynedd.llyw.cymru

Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 19/11/2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

                

NODWEDDION PERSONOL 

HANFODOL

Ymrwymiad i weithio i warchod lles plant.

Gallu i weithio dan bwysau.

Parodrwydd i ddatblygu ac ehangu gwerthoedd, sgiliau a gwybodaeth.

Gweithio fel rhan o dîm a derbyn arolygaeth.

DYMUNOL

Hyblyg o ran oriau gweithio.

 

CYMWYSTERAU  A HYFFORDDIANT PERTHNASOL    

HANFODOL

DipSw/CQSW/CSS neu ar fin cymhwyso

DYMUNOL

-

 

PROFIAD PERTHNASOL  

HANFODOL

Profiad o weithio gyda phlant o phobl ifanc.

DYMUNOL

Profiad o weithio mewn tîm plant neu leoliad gwaith efo plant.

Profiad o gynllunio parhaol ar gyfer plant.

 

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

Trwydded yrru gyfredol, lan.

Dealltwriaeth o rôl gweithiwr cymdeithasol o fewn y tîm plant.

Gallu i weithio mewn partneriaeth efo plant, teuluoedd ac asiantaethau eraill.

Dealltwriaeth dda o’r cyd-destun deddfwriaethol yn ymwneud a mabwysiadu a cynllunio parhaol.

DYMUNOL

Gweithio dan y canllawiau amddiffyn plant.

 

ANGHENION IEITHYDDOL


HANFODOL

Gwrando a Siarad

Darllen a Deall

                

 Pwrpas y Swydd

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.