SWYDD FEWNOL. Mae’r swydd yma ar gael dim ond i gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) a weather asiantaeth sy’n gweithio i CBST ar hyn o bryd
Mae'r MASSH (Hwb Cymorth a Diogelu Amlasiantaeth) yn chwilio am Weithiwr Cymorth Cymunedol ar hyn o bryd. Mae gwaith amlasiantaeth yn nodwedd bwysig o ddull gweithredu Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer darparu gwasanaethau, a byddwch yn ymuno â thîm arloesol ac yn gweithio mewn amgylchedd blaengar ac ymroddgar sy'n dysgu, lle mae ymarferwyr yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.
Gwybodaeth am y Rôl:
Rydyn ni'n cefnogi plant o’r oed cyn-geni hyd nes iddynt gyrraedd 15 oed a'n rôl allweddol yw sicrhau bod plant yn aros gyda'u teuluoedd lle bo hynny'n bosibl, bod anghenion plant yn cael eu diwallu'n briodol a bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae dull sy'n seiliedig ar gryfderau yn cael ei hyrwyddo o fewn MASSH ac mae rôl y Gweithiwr Cymorth Cymunedol yn hanfodol i'r ffordd y mae'r tîm yn gweithio ac yn darparu ei wasanaethau. Bydd y swydd yn golygu gwneud ymholiadau gyda rhieni/gofalwyr ac asiantaethau ehangach i gynorthwyo gyda phenderfyniadau am reoli, cynnal Asesiadau Gofal a Chymorth a chynorthwyo Gweithwyr Cymdeithasol gyda'u dyletswyddau.
Strwythur y Tîm:
- 1 Rheolwr Tîm
- 3 Rheolwr Tîm Cynorthwyol
- 6 Gweithiwr Cymdeithasol
- 4 Gweithiwr Cymorth Cymunedol
- 7 Gweithiwr Ymyrraeth i Deuluoedd (Tîm Ymateb Cyflym)
- 1 Arweinydd Tîm Atgyfeirio
- 1 Swyddog Atgyfeirio
Bydd gofyn bod gan ymgeiswyr brofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd a gwybodaeth a dealltwriaeth dda am ddatblygiad corfforol, cymdeithasol, emosiynol, seicolegol ac addysgol plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Carley Smith, Rheolwr y Tîm ar 01633 647794.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.