Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym yn gwneud gwelliannau i’r porthol swyddi ar hyn o bryd, felly efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig o darfu dros dro. Nid yw hyn yn effeithio ar gyhoeddi swyddi gwag â llaw, felly parhewch i rannu eich rolau gyda ni.

[Mewnol] Hyfforddai Therapi Galwedigaethol Academi Gofal Gwynedd

Dyddiad cau 22/06/2026

Cyflogwr

Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£See job description (-) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

Math Swydd – Aros mewn swydd, cael eich rhyddhau dau ddiwrnod yr wythnos yn ystod tymor Coleg a chwblhau cyfnodau o leoliad dros gyfnod o bedair blynedd.

Cyflog – Dim newid i swydd gyfredol. Wedi cymhwyso, bydd disgwiliad i'r ymgeisydd llwyddiannus cael swydd fel therapydd galwedigaethol o fewn tîmau Cyngor Gwynedd.

Lleoliad – Sirol

Mae Academi Gofal Gwynedd yn cynnig cyfle cyffrous i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes Gofal Cymdeithasol. Dyma gyfle i ymgeisio am gyfle datblygiadol i ddod yn Therapydd Galwedigaethol. Bydd gofynion penodol ar gyfer ymgeisio am y cyfle yma, gweler y swydd ddisgrifiad a manylion person am fwy o wybodaeth.

Mae’r cyfle yma ar gyfer aelodau staff adran Plant ac Oedolion yn unig. A bydd angen swydd gyfredol Gofal uniongyrchol llawn amser gyda chytundeb am o leiaf pedair blynedd nesaf yn un o’r adrannau.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Disgwylir i ymgeiswyr gael ymrwymiad eu rheolwyr i’r cynllun cyn gwneud cais.

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Glenys Campbell ar 01286 679026. Bydd hefyd sesiwn wybodaeth yn cael ei gynnal dros Teams ar y 9fed o Fehefin rhwng 1 - 2yp. I gadw lle cyswllt â CaisHyfforddiant@gwynedd.llyw.cymru

Bydd angen gwirio os ydych yn cyrraedd gofynion academaidd y cwrs cyn ymgeisio am y cyfle – gwiriwch yma neu cysylltwch ar Brifysgol – admissions@wrexham.ac.uk

Bydd yr adnodd yma yn ddefnyddiol i weld beth mae eich cymwysterau yn cyfateb i - Calculate your UCAS Tariff points | UCAS

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau ar yr 30ain o Fehefin 2026 yn y Ganolfan Ddysgu, yng Nghaernarfon.

DYDDIAD CAU: 22.06.26 10:00AM

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
                

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Sylfaen werthoedd cryf.
Sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a hynny mewn sefyllfaoedd amrywiol.
Sgiliau ac ymrwymiad i astudio.
Dealltwriaeth o waith Therapydd Galwedigaethol

                

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cyfle i unigolyn sydd eisoes yn gweithio I adrannau Plant a Chefnogi Teuluoedd ac Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd, ac os yn llwyddiannus wedi eu derbyn ar gwrs gradd Therapi Galwedigaethol rhan amser yn Brifysgol Wrecsam trwy gynllun bwrsariaeth iechyd.
• Mae natur cwrs rhan amser Prifysgol Wrecsam yn galluogi astudio gan barhau i weithio yn eich swydd gyfredol.
• Bydd yr Uned Datblygu Gweithlu yn talu i’r Adran/gwasanaeth am 2 ddiwrnod yr wythnos yn ystod tymor coleg a lleoliadau ymarfer 33 wythnos dros 4 blynedd. Talu costau teithio o’r man gwaith i Brifysgol Glyndŵr.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

Prif Ddyletswyddau. 

• Mynychu dyddiau Coleg yn gyson yn ystod y tymor. Yn ogystal â mynychu dyddiadau mewn lleoliad.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
• Ymrwymiad i astudio, a hynny yn rhannol yn eu hamser personol.
• Cwblhau lleoliadau gwaith o gyfanswm o 33 wythnos dros 4 blynedd

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.

• Cyn ymgeisio, mae’n bwysig i’r unigolyn ystyried y bydd angen ymrwymo amser personol i astudio.
• Mae’n ddisgwyliad i’r ymgeisydd drafod a chael ymrwymiad eu rheolwr i’r cynllun gan y bydd angen cydweithrediad y rheolwr er mwyn gallu rhyddhau o’r swydd/gweithle am gyfnodau’r lleoliadau a’r diwrnodau astudio. Bydd rhaid cael caniatad ysgrifenedig i’r egwyddor gan eu rheolwr a bydd angen cael copi o’r llythyr cadarnhad cyn y dyddiad cyflweld.
Yn dilyn cymhwyso, bydd yr unigolyn yn ymrwymo i weithio fel Therapydd Galwedigaethol am ddwy flynedd o fewn unrhyw wasanaeth ac unrhyw ardal yng Ngwynedd.

 

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.