Pwrpas y swydd
•Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
•Sicrhau fod pobl Gwynedd yn ganolog yn i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Asesu anghenion oedolion a’u gofalwyr yn unol a gofynion Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2014 a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill.
•Darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i ddinasyddion i’w galluogi i gwrdd ac amcanion personol
•yn y prif ddyletswyddau
•Cynorthwyo pobl i adnabod datrysiadau, atal dibyniaeth a hyrwyddo annibyniaeth
•Darparu gwybodaeth ynglyn a’r adnoddau cefnogol sydd ar gael yn y gymuned, gan y trydydd sector, y Cygor a’r Bwrdd Iechyd er mwyn galluogi dinasyddion I fyw mor annibynnol a phosib a gwella eu ansawdd bywyd I’r eithaf.
•Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol a threfniadau diogelu y Cyngor a’r cyfrifoldebau statudol
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyllid – Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.
•Offer – Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd. Arddangos y defnydd gorau o adnoddau o ran darpariaeth addasiadau ac offer addas a darparu gwasanaeth yn unol a’r polisiau, gweithdrefnau a chanllawiau. Cyfrifoldeb dros allweddi i’r storfeydd ble cedwir offer.
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau Cyffredinol
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a chadw portffolio o dystiolaeth datblygiad proffesiynol parhaus.
•Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd ac ymgynghori â'ch rheolwr llinell a chydweithwyr profiadol eraill. Parhau i ddatblygu eich ymarfer trwy fyfyrio parhaus.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol.
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau yn gynyddol gymhleth o fewn y 3 blynedd gyntaf o ymarfer trwy fentora a goruchwyliaeth gan eich rheolwr llinell neu arweiniad gan gydweithwyr mwy profiadol.
•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor, a gwrthdaro, gydag arweiniad a chymorth yn cynyddu mewn cymhlethdod yn ystod y 3 blynedd.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol trwy arweiniad gan eich rheolwr llinell a cyd- weithwyr mwy profiadol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn
briodol.
•Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill gan gynyddu mewn cymhlethdod drwy gydol y 3 blynedd.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan arweiniad eich rheolwr llinell neu gydweithwyr profiadol eraill a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol dan arweiniad eich rheolwr llinell neu gydweithwyr mwy profiadol.
•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru dan arweiniad rheolwr llinell neu gydweithwyr mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
•Asesu galluedd meddyliol unigolion yn unol â gofynion y Ddeddf Galluedd Meddyliol dan arweiniad eich rheolwr llinell neu gydweithwyr profiadol.
•Asesu anghenion a gofynion unigolion o ran mân addasiadau, addasiadau mawr ac addasiadau strwythurol cymhleth (gan gynnwys estyniadau). Ystyried yr angen am lety priodol. Sicrhau bod yr addasiad yn cael ei gwblhau i'r safon ddisgwyliedig sy'n cwrdd â'r angen.
•Dangos hyfedredd clinigol a chyfrannu at brosiectau datblygu gwasanaeth o fewn y tîm Therapi Galwedigaethol.
•Asesu, cynllunio, darparu ac arddangos y defnydd o dechnegau neu offer arbenigol i unigolion, gofalwyr a darparwyr gofal. Cymryd arweiniad gan gydweithwyr mwy profiadol.
•Cynnal a chofnodi asesiadau risg codi a chario cynhwysfawr yn unol â chanllawiau a deddfwriaeth.
•Datblygu, cynllunio ac adolygu cynlluniau codi a chario i reoli'r risg i unigolion a gofalwyr.
Dyletswyddau Lleol
•Hybu anibynniaeth, galluogi a cefnogi unigolion fod yn datrys problemau eu hunain drwy sgyrsiau wedi eu seilio ar gryfderau.
•Bod yn rhan o’r IAA (rhoi gwybodaeth, cyngor a cymerud cyfeiriadau).
•Cwblhau asesiadau:
a.Beth Sy’n Bwysig (cwblhau “occupational analysis” ar weithgareddau pob dydd).
b.Symud a Thrin.
c.Capasiti a best interest.
d.Cadeiriau (arbennigol ac olwyn).
e.Gwlau.
f.Osgo.
g.Asesiadau arbenigol eraill.
•Darparu ymyrraethau (e.g. offer, addasiadau man a mawr).
•Defnyddio ei’n hunain fel adnoddau pan nad oes adnoddau eraill ar gael.
•Cyfeirio ymlaen i’r trydydd sector, proffesiynnau eraill (e.g. Ffisiotherapydd).
•Gweithio gyda “reps” er mwyn cynyddu gwybodaeth arbenigol a cael offer arbennigol i’r unigolion.
•Adolygu ymyrraethau.
•Dangos i unigolion/gofalwyr sut mae defnyddio’r offer.
•Hyfforddiant i ofalwyr/teulu sut mae defnyddio offer symud a thrin.
•Cwblhau llythyrau cefnogi ar gyfer TOT.
•Cymeryd myfyrwyr ymlaen.
Dyletswyddau Eraill
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
•Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.