21.24 awr yr wythnos
Secondiad Cyfnod Penodol hyd at 31 Awst 2027.
Ystyrir secondiadau ar y telerau ac amodau presennol am gyfnod o 12 mis.
Y Rôl
Rydym yn chwilio am arweinydd ysgol gynradd profiadol, myfyriol a llawn cymhelliant i ymgymryd â rôl Partner Gwella ysgolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae hwn yn gyfle secondiad cyffrous i gyfrannu at welliant system gyfan, gan weithio ar y cyd â lleoliadau a gwasanaethau i gryfhau deilliannau i blant a phobl ifanc.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi hunanwerthuso, ysgogi cynllunio gwella a hyrwyddo ymarfer o ansawdd uchel ar draws y gyfarwyddiaeth.
Cyfrifoldebau Allweddol
Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i gefnogi hunanwerthuso a chynllunio gwella cadarn, wrth ddarparu her a chymorth effeithiol i sicrhau deilliannau gwell. Byddant yn nodi, yn rhannu ac yn hyrwyddo ymarfer effeithiol ar draws yr awdurdod lleol, gan gyfrannu at flaenoriaethau strategol a gweithgarwch gwella ar draws y gyfarwyddiaeth. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cefnogi'r gwaith o ddatblygu diwylliant o welliant parhaus ac atebolrwydd, a defnyddio data ochr yn ochr â thystiolaeth uniongyrchol i lywio deialog broffesiynol a'r camau nesaf.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn dangos:
- Profiad cryf o arweinyddiaeth a gwella ysgolion;
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith arolygu a'r disgwyliadau;
- Sgiliau rhagorol mewn gwerthuso, dadansoddi a deialog broffesiynol;
- Gallu dylanwadu, herio a chynorthwyo yn effeithiol;
- Ymrwymiad i gydweithio, arloesi a chynhwysiant; a
- Sgiliau trefnu cryf a'r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol.
Cymhwystra
Mae'r cyfle hwn yn agored i ymgeiswyr mewnol ar sail secondiad. Rhaid i ymgeiswyr gael cymorth eu Cadeirydd Llywodraethwyr.
Pam gwneud cais?
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i:
- Ehangu eich profiad y tu hwnt i'ch rôl bresennol;
- Cyfrannu at arweinyddiaeth systemau a datblygu strategol;
- Datblygu arbenigedd mewn parodrwydd arolygu a methodoleg gwella; a
- Gweithio ochr yn ochr â thîm cefnogol a blaengar.
Ar gyfer trafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Alison Jenner (alison.jenner@bridgend.gov.uk) neu Gethin Howells (gethin.howells@bridgend.gov.uk) i drefnu amser addas.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 16 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 20 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person