Peiriannydd Gwasanaeth Oriau: 37 awr yr wythnos Dydd Llun–Dydd Gwener (gan gynnwys oriau tu hwnt i oriau gwaith arferol ar gyfer gwasanaeth torri i lawr ac atgyweirio ar sail rota)
Lleoliad: Cwmni 'Vision Products', Pont-y-clun
Cyflog: £24,702 pa (GR5)
Manylion y Cwmni Mae Vision Products yn Fusnes Cyflogaeth â Chymorth yn y Cyngor, wedi'i leoli ym Mhont-y-clun. Mae ein mentrau busnes yn amrywiol ac yn cynnwys y Gwasanaeth Offer yn y Gymuned, Technoleg Gynorthwyol a Gwasanaethu Offer, a'n siopau manwerthu ein hunain, Vision Mobility.
Mae Vision Products yn fusnes sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac ar hyn o bryd mae'n edrych i recriwtio Peiriannydd Gwasanaeth i ymuno â'n tîm Technoleg a Gwasanaethu sy'n darparu atgyweiriadau proffesiynol a chynnal a chadw offer yn ein cymuned.
Byddwch yn gweithio gyda thîm cyfeillgar, deinamig ac ymatebol. Ni fydd unrhyw ddiwrnod gwaith yr un fath gan y byddwch chi'n cwrdd â chleientiaid gwahanol ac yn gwneud gwaith gwasanaethu ac atgyweirio i amrywiaeth o offer gwahanol.
Profiad/ymgeiswyr dymunol Mae'r swydd yn cynnwys gyrru i gartrefi cleientiaid amrywiol drwy gydol y diwrnod gwaith yn gwneud gwaith gwasanaethu ac atgyweirio ar amrywiaeth o offer, cofnodi manylion y gwaith a gwblhawyd ar lechen electronig a throsglwyddo unrhyw faterion yn ôl i'r goruchwyliwr neu'r staff swyddfa perthnasol. Mae trwydded yrru lawn y DU yn hanfodol.
Byddai'r rôl hon yn gweddu i rywun ag agwedd ragweithiol, sy'n dda gydag offer llaw ac offer profi sylfaenol. Byddwch yn gweithio gyda chleientiaid ag anghenion amrywiol felly mae bod yn dosturiol ac amyneddgar yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae profiad blaenorol mewn amgylchedd tebyg i'w groesawu ond nid yn hanfodol. Mae profiad o brofi / canfod nam ar gynhyrchion trydanol a mecanyddol yn hanfodol a bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu wrth i chi ddysgu am ein gweithdrefnau a'r amrywiaeth o offer y byddwch yn gweithio arnyn nhw.
Bydd cyfrifoldebau'n cynnwys: Cadw at reoliadau LOLER a chynnal profion llwyth / pwysau.
Sicrhau bod yr holl offer yn ddiogel i'w defnyddio drwy wneud atgyweiriadau a gwasanaethau perthnasol.
Sicrhau bod stoc eich fan yn cael ei hailgyflenwi a bod yr holl offer ac offer profi yn cael eu cadw mewn cyflwr da.
Cau gwaith i lawr yn fedrus trwy gofnodi profion a gynhaliwyd yn electronig gan ddefnyddio dyfeisiau llaw neu ddyfeisiau symudol.
Rhagor o wybodaeth Mae Vision Products yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal, sy'n ymroi i feithrin gweithle cynhwysol ac amrywiol.
Rydyn ni'n croesawu ac yn annog unigolion sydd ag anableddau i gyflwyno cais am ein swyddi. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu addasiadau rhesymol ac amgylchedd cefnogol yn ystod y broses recriwtio a chyfnod y swydd. Os oes gyda chi unrhyw anghenion penodol yn ystod y broses gyfweld, rhowch wybod i ni a byddwn ni'n gweithio gyda chi i'w diwallu. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth parhaus i'ch helpu chi i ragori yn eich swydd, gan gynnwys cyfarfodydd un-i-un rheolaidd, adolygiadau cyflawniad, a mesurau cymorth eraill. Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol sy'n meithrin llwyddiant pob un o'n gweithwyr.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r rôl, e-bostiwch
[email protected] neu [email protected] , neu ffonio (01443) 220812/07880044455.Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn adnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y brosess denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwyd Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.