Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1131
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Caerfyrddin
Gradd: Penaethiaid Gwasanaeth (1)
Cyflog: £99,934 - £106,457
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £51.80 - £55.18
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm Ydych chi'n weithiwr proffesiynol talentog a phrofiadol ym maes gwaith cymdeithasol, sy'n sefydledig ar y lefel hon neu'n chwilio am ddyrchafiad? Mae Sir Gaerfyrddin yn chwilio am arweinydd tosturiol sy'n cael ei yrru gan werthoedd, a all ysgogi trawsnewid, arloesi a gwella ar draws gwasanaethau i oedolion. Bydd gennych ymrwymiad i arweinyddiaeth ym maes Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu Oedolion, a phrofiad o hynny. Mae gan Sir Gaerfyrddin strategaethau datblygedig i ehangu ein gwasanaethau preswyl, gofal cartref a byw â chymorth mewnol, felly mae gwybodaeth am sut i ddatblygu'r ddarpariaeth uniongyrchol hon yn fantais.
Mae gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid yn yr heddlu a'r gwasanaethau iechyd yn hanfodol a byddech yn ymuno ag awdurdod lle mae perthnasoedd cefnogol rhagorol gyda'r ddwy asiantaeth y gallwch adeiladu arnynt. Er bod gwasanaethau pobl hŷn yn cael eu rheoli ar wahân ac wedi'u hintegreiddio'n llawn ag iechyd, byddwch yn gweithio'n agos gyda Phennaeth y Gwasanaethau Integredig i ddarparu gofal cartref a gwasanaethau ailalluogi effeithiol i bobl hŷn.
Bydd angen i ymgeiswyr fod â hanes cryf o lwyddiant a gallu ysbrydoli staff, gwella gwasanaethau a gweithio'n gorfforaethol. Mae diwylliant ac ymddygiad yn bwysig i ni yn Sir Gaerfyrddin, ac felly byddwn yn chwilio am ymgeiswyr a all fod yn gadarnhaol, yn atebol, yn ddewr/arloesol ac yn garedig. Gan weithio fel un tîm colegaidd, byddwn yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i oedolion agored i niwed.
Mae Sir Gaerfyrddin yn lle gwych i weithio a byw, gydag arfordir prydferth a chymunedau amrywiol sy'n ficrocosm o Gymru.
Ai chi yw'r arweinydd profedig sydd wedi ymrwymo i wella bywydau oedolion agored i niwed rydym yn chwilio amdano? Os felly, hoffem glywed gennych!
Mae rhagor o fanylion am y rôl hon ar gael drwy glicio ar y ddolen ganlynol Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
I drefnu sgwrs anffurfiol gyda Jake Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, e-bostiwch: Gill Powell - GLPowell@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: Head of Adult Social Care.pdf - 230KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 23 Ionawr 2025
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 07/01/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.