Dyma gyfle cyffrous ymuno â'n Tîm Adnoddau Teuluol o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fel prentis. Mae'r swydd hon wedi'i lleoli mewn tîm cyfeillgar lle byddwch yn derbyn cefnogaeth ardderchog a hyfforddiant yn y swydd. Byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo'r tîm i gefnogi plant, rhieni a gofalwyr trwy amser i’r teulu, gwaith uniongyrchol, cyflwyno rhaglenni achrededig a hwyluso Cynadleddau Grŵp Teulu.
Bydd y rôl hon yn eich galluogi i brofi'r holl elfennau hyn a dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i'w rhoi ar waith. Byddwch yn cael eich cefnogi i ddatblygu ffordd o weithio gyda phlant, rhieni a gofalwyr sy'n seiliedig ar berthynas yn ogystal ag egwyddorion gweithio sy’n seiliedig ar gryfderau gyda theuluoedd. Bydd cyfle hefyd i ddysgu am y gwasanaeth Plant a Theuluoedd ehangach yn ogystal â diogelu.
Fel Prentis, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol, yn dysgu sgiliau sy’n benodol ar gyfer y swydd, wrth ennill cyflog a gweithio tuag at Ddiploma Gweithlu Plant a Phobl Ifanc sy'n gymhwyster proffesiynol sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd ag agwedd gadarnhaol, a pharodrwydd i ddysgu. P'un a ydych chi'n dechrau eich gyrfa neu'n ystyried ailhyfforddi, dyma gyfle ardderchog i ennill profiad gwerthfawr yn y maes gwasanaethau plant.
Oherwydd natur y rôl, bydd gofyn i chi deithio'n annibynnol rhwng gwahanol leoliadau ar draws Bwrdeistref Torfaen mewn modd amserol. Felly, mae trwydded yrru lawn a mynediad i gerbyd yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r tîm wedi'i leoli yn y Ganolfan Adnoddau Teuluol yn Wesley Street, Cwmbrân a Chanolfan Deuluoedd Stanley Road yng Ngarndiffaith.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Salli Moreton, Arweinydd Datblygu Gyrfa a Phrentisiaethau ar 01633 647271 - neu drwy e-bost salli.moreton@torfaen.gov.uk
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.