Am Y Gwasanaeth
Yn weithredol o 1 Ebrill 2026, mae gan y rôl hon ychwanegiad y farchnad o £5,000 .
Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Ein Hyb Diogelu Amlasiantaethol, neu ‘MASH’ yw’r Pwynt Cyswllt Cyntaf ar gyfer pob cyswllt newydd am blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Rydym yn helpu plant agored i niwed a all elwa o wasanaethau cymorth cynnar yn y gymuned yn ogystal â phlant sydd angen cymorth, amddiffyniad a gofal gwaith cymdeithasol.
Mae’r MASH yn ffordd arloesol o gryfhau arferion diogelu lleol i alluogi partneriaid diogelu lleol i rannu gwybodaeth a gweithio gyda’i gilydd. Rydym yn gweithio’n agos ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol o asiantaethau statudol eraill, gwasanaethau gwirfoddol yn ogystal ag; aelodau’r teulu, aelodau’r cyhoedd a phlant a phobl ifanc eu hunain.
Am Y Swydd
Mae MASH yn awyddus i recriwtio Prif Weithiwr Cymdeithasol llawn amser.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain a llunio arfer a pherfformiad o fewn y Tîm, tra'n datblygu eich sgiliau asesu a rheoli risg. Byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Tîm a’r Tîm i gyflawni’r dull Arwyddion Diogelwch a gwasanaeth o ansawdd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
O dan arweiniad y Rheolwr Tîm, byddwch yn gyfrifol am eich is-Dîm bach eich hun a byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a goruchwylio staff ac yn gyfrifol am Gyfarfodydd Strategaeth risg uchel, ar sail cylchdro gyda'r is-Dîm arall. Byddwch yn cefnogi'r Rheolwr Tîm ymhellach gydag atgyfeiriadau "cam-drin" ac awdurdodi asesiadau Gweithwyr Cymdeithasol.
Bydd disgwyl i chi weithio'n agos gydag Asiantaethau Partner MASH a chynorthwyo'r Rheolwr Tîm i hyrwyddo perthynas broffesiynol, gadarnhaol ac ystyrlon â hwy. Bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn natblygiad y Gwasanaeth a chymryd rhan mewn Grwpiau Tasglu.
Mae MASH yn Dîm sy'n symud yn gyflym ac sy'n gofyn am brofiad a hyder wrth wneud penderfyniadau, asesu a rheoli risg a'r gallu i weithio ar eich menter eich hun o dan bwysau eithafol ac o fewn amserlenni, er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu ac nad oes oedi cyn symud ymlaen i'r gwasanaethau statudol neu anstatudol priodol.
Mae'r Gwasanaethau i Blant yn hybu gweithio hyblyg i'w staff a darperir cyfarpar i'r holl staff i weithio’n ystwyth. Fel Prif Weithiwr Cymdeithasol, fodd bynnag, bydd disgwyl i chi weithio yn y swyddfa ar sail rota gyda'ch cydweithiwr i gefnogi a chynorthwyo'r Rheolwr Tîm.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.
Yn weithredol o 1 Ebrill 2026, mae gan y rôl hon ychwanegiad y farchnad o £5,000 .
Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor.
Mae’r swyddi hyn yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Laura.White3@cardiff.gov.uk drefnu amser cyfleus i bawb.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau