Am Y Gwasanaeth
Ymunwch â'n Tîm Dyletswydd Argyfwng (TDA) deinamig fel Prif Weithiwr Cymdeithasol.
Ydych chi'n weithiwr cymdeithasol angerddol a phrofiadol sy'n barod i ymgymryd â rôl mewn amgylchedd prysur, effaith uchel? Os felly, mae gennym y cyfle perffaith i chi!
Mae ein Tîm Dyletswydd Argyfwng ar flaen y gad o ran darparu cymorth gofal cymdeithasol brys i unigolion a theuluoedd mewn argyfwng. Mae'r Tîm Dyletswydd Argyfwng yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau, gan ymateb i argyfyngau a materion gwaith cymdeithasol eraill nad yw’n ddiogel eu gadael tan y diwrnod gwaith canlynol.
Mae ein gwasanaeth TDA yn drefniant partneriaeth rhanbarthol gyda Chyngor Bro Morgannwg, sy'n cael ei gynnal a'i reoli gan Gyngor Caerdydd i bob dinesydd ar draws y ddwy ardal awdurdod lleol gan gydweithio ag asiantaethau partner a gwasanaethau argyfwng eraill.
Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig i ymuno â'n tîm ar adeg gyffrous o ddatblygu gwasanaethau.
Am Y Swydd
Fel Prif Weithiwr Cymdeithasol TDA, byddwch yn ymrwymedig i ddiogelu a chynnal hawliau plant, pobl ifanc ac oedolion a gweithio mewn ffordd ataliol yn seiliedig ar gryfder. Mewn amgylchedd gwerth chweil, amrywiol ond cymhleth, byddwch yn ymdrin ag ystod o achosion o amddiffyn plant i asesiadau Deddf Iechyd Meddwl a phenderfyniadau y mae angen eu gwneud yng nghyd-destun pob achos unigol i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Byddwch yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i'n holl ddinasyddion ac yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill fel yr Heddlu a gweithwyr iechyd proffesiynol.
Pam Ymuno â Ni?
Effaith: Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r rhai sydd mewn angen.
Twf: Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a gyrfa.
Cymorth: Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol.
Hyblygrwydd: Rôl sy'n cynnig amrywiaeth a'r cyfle i weithio ar reng flaen gofal cymdeithasol.
Os ydych chi'n barod i fynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf a bod yn rhan o dîm sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn, rydym eisiau clywed oddi wrthych.
Beth rydym yn ei gynnig?
Cyflog cystadleuol sy’n cynnwys Taliad Atodol, lwfans GPIMC, lwfans nos, a lwfansau shifft ar gyfer penwythnosau ac oriau anghymdeithasol
Yr oriau cytundebol fydd 18.5 awr yr wythnos, gan weithio fel rhan o rota dreigl sy'n denu lwfansau ychwanegol ar gyfer gweithio shifftiau, gweithio ar benwythnosau a lwfans nos ar gyfer oriau anghymdeithasol.
Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol.
Bydd lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro-rata) hefyd yn cael ei dalu i ymgeiswyr cymwys addas.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol Caerdydd, bydd gennych fynediad at ystod gynhwysfawr o adnoddau a chymorth i barhau â'ch datblygiad proffesiynol. Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi sy'n cynnwys:
Gwyliau blynyddol hael: yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu hyd at 10 diwrnod o wyliau blynyddol ychwanegol (pro rata).
Trefniant gweithio hybrid: – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref.
Mynediad: at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
Cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol: a gynigir gan dîm hyfforddiant gofal cymdeithasol gwybodus ac ymroddedig, p'un ag ydych newydd gymhwyso neu'n ymarferydd profiadol sy'n arbenigwr yn eich maes.
Cymorth: drwy fentoriaeth ac uwch dîm rheoli sy'n cydnabod cyflawniadau ac yn dathlu llwyddiant. Byddwch yn cael goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd gan y Rheolwr Gwasanaeth TDA.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Cymwysterau: Mae gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster Gwaith Cymdeithasol cyfatebol a bod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn hanfodol. Mae statws Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (GPIMC) yn ddymunol; lle nad w ymgeiswyr yn meddu ar gymhwyster Gweithiwr Iechyd Meddwl Cymeradwy ar hyn o bryd, bydd cyfle i gael cefnogaeth i ymuno â rhaglen hyfforddi GPIMC. Telir lwfans ychwanegol i weithwyr sy’n gymwys fel GPIMC.
Profiad: Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwys sydd â phrofiad o ddiogelu oedolion a phlant. Bydd gennych brofiad o asesu risg ac anghenion cymhleth plant ac oedolion agored i niwed a byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol ac ar y cyd â chydweithwyr ac asiantaethau partner.
Arbenigedd: Gwybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth berthnasol ac yn ymrwymedig i'ch datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwch yn meddu ar sgiliau asesu a dadansoddi rhagorol ac yn gallu gwneud asesiadau risg a phenderfyniadau cadarn mewn argyfwng.
Gwydnwch: Y gallu i fod yn ddigynnwrf ac effeithiol, gyda sgiliau datrys problemau ardderchog. Byddwch yn gallu dangos safonau uchel o ymarfer proffesiynol, gan gynnwys cadw cofnodion, cymhwysedd TGCh a throsglwyddo’n brydlon ac effeithiol i wasanaethau yn ystod y dydd a chydweithwyr.
Cyfathrebu: Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd a dylanwadu ar eraill.
Gallu gweithio’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, cydweithwyr, uwch reolwyr a chyrff proffesiynol eraill yn ôl yr angen.
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol o fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Swydd ran amser yw hon, a bydd y deiliad yn gweithio 18.5 awr yr wythnos.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Beth Evans, Arweinydd Gwasanaeth TDA ar 07973 730393/ Beth.Evans@caerdydd.gov.uk
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau