Lleoliad gwaith: Coed Pella
Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n cefnogi a chryfhau cymunedau lleol. Rydym yn chwilio am unigolyn cymhellol ac ymroddedig i ymuno â’n tîm agos a chefnogol yn y Tîm Lles Meddyliol, sy’n rhan o’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn, fel Rheolwr Adain - Lles Meddyliol llawn amser.
Dyma gyfle cyffrous i weithio mewn lleoliad iechyd meddwl gofal cymdeithasol, i gefnogi unigolion â chyflyrau iechyd meddwl difrifol a pharhaus sy’n effeithio ar eu bywyd o ddydd i ddydd ac ansawdd eu bywyd. Byddwch chi’n gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr iechyd mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, gan ddefnyddio dull cydweithredol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, â chanolbwynt cryf ar adferiad, ailalluogi a chynllunio ar sail canlyniadau. Mae llawer o gwmpas i ddatblygu’r perthnasoedd gweithio hyn a gwella cydweithio.
Bydd y rôl yn arwain a chefnogi ein Rheolwyr Tîm a’n hymarferwyr i gyflawni dyletswyddau'r Cyngor dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, gan sicrhau bod pobl sydd wedi’u cadw yn yr ysbyty yn cael y gefnogaeth gywir a’r ôl-ofal cywir pan fyddan nhw’n dychwelyd i’r gymuned. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhagweithiol wrth edrych ar ffyrdd newydd o fynd i’r afael â materion i hybu arfer gorau. Mae sgiliau cryf wrth gyfathrebu, trefnu a gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol, ynghyd â dull tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Byddwch chi’n cael cefnogaeth trwy oruchwyliaeth ffurfiol rheolaidd ac amrywiaeth o gyfleoedd datblygiad parhaus, ynghyd ag ethos tîm cryf sy’n rhoi gwerth ar gefnogaeth, dysgu a thwf proffesiynol.
Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ymunwch â ni a bod yn rhan o dîm sy’n gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl ar draws Conwy.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Amy Jones, Rheolwr Gwasanaeth ( Amy.jones2@conwy.gov.uk / 01492 576392)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.