Am Y Gwasanaeth
Gwneud gwahaniaeth go iawn: Llunio dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd.
Mae Caerdydd yn ddinas llawn egni, amrywiaeth ac uchelgais ac rydym yn chwilio am rywun yr un mor frwdfrydig i ymuno â ni fel ein Rheolwr Byw'n Annibynnol a Gofal Cymdeithasol Cymunedol.
Mae hwn yn gyfle gwych i arwain gwasanaethau sy'n newid bywydau mewn gwirionedd. Byddwch wrth wraidd sut rydym yn cefnogi pobl hŷn ac oedolion sydd ag anableddau i fyw'n annibynnol, cadw mewn cysylltiad â'u cymunedau a derbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn.
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac mae'n croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.
Am Y Swydd
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth uwch gyda chyfrifoldeb am ystod eang o wasanaethau effaith uchel. Byddwch yn:
- Arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol cymunedol yn strategol, gan sicrhau canlyniadau cryf i breswylwyr
- Goruchwylio gwasanaethau byw'n annibynnol sy'n cefnogi pobl i aros yn ddiogel gartref
- Gyrru arloesedd mewn gwasanaethau ataliol, ail-alluogi, ac ymyrraeth gynnar
- Gweithio'n agos gyda'n partneriaid iechyd i gryfhau dulliau rhyddhau o'r ysbyty a dulliau "gartref gyntaf"
- Sicrhau bod gwasanaethau yn bodloni gofynion statudol a safonau AGC
Byddwch yn goruchwylio portffolio amrywiol a hanfodol o wasanaethau, gan gynnwys:
- Pwynt cyswllt cyntaf a gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth
- Gwasanaethau adnoddau cymunedol ac ymateb cyflym
- Therapi galwedigaethol ac addasiadau i'r anabl
- Teleofal (24/7) a Phryd ar Glud
- Gwasanaethau ymgysylltu â'r gymuned sy'n mynd i'r afael ag ynysu
- Gwasanaethau offer a phartneriaethau ar y cyd
- Gwaith cymdeithasol yn yr ysbyty a gwasanaethau rhyddhau integredig
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle teg, cynhwysol a chefnogol, lle mae pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch ac yn cael y cyfle i ffynnu. Mae recriwtio yn seiliedig ar sgiliau, profiad a photensial ac rydym yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am arweinydd brwdfrydig a phrofiadol sy'n gallu dod â phobl at ei gilydd a chyflawni newid go iawn.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Profiad arweinyddiaeth cryf mewn gofal cymdeithasol i oedolion neu wasanaethau cysylltiedig
- Hanes o yrru gwelliant, arloesi a pherfformiad
- Profiad o reoli gwasanaethau, partneriaethau a chyllidebau cymhleth
- Angerdd dros ofal, atal ac annibyniaeth sy'n canolbwyntio ar y person
- Yr hyder i arwain trwy newid a chyflawni ar gyflymder
Yn bwysicaf oll, byddwch yn rhannu ein gwerthoedd – rhoi pobl yn gyntaf, gweithio ar y cyd ac ymdrechu i wella bob dydd.
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg ac Ieithoedd Cymunedol, o fantais.
Pam Caerdydd?
Mae hyn yn fwy na swydd. Mae'n gyfle i gael effaith barhaol mewn prifddinas sy'n uchelgeisiol ar ran ei chymunedau.
- Byddwch yn rhan o gyngor blaengar sy'n gyrru trawsnewid mewn gwasanaethau i oedolion
- Gweithio mewn dinas gydag ymdeimlad cryf o gymuned, diwylliant a chyfleoedd
- Helpu i lunio gwasanaethau modern, integredig sy'n rhoi annibyniaeth yn ganolog
- Ymunwch â thîm arweinyddiaeth uwch gefnogol sy'n ymrwymedig i arloesi a gwella
Yn barod i wneud gwahaniaeth?
Os ydych yn angerddol am wella bywydau, arwain gwasanaethau perfformiad uchel a llunio dyfodol gofal cymdeithasol oedolion, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
Mae gweithio i Gyngor Caerdydd yn golygu bod yn rhan o sefydliad sydd wedi ymrwymo i'ch cefnogi i wneud eich gwaith gorau wrth hefyd gynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd.
Rydym yn cynnig ystod o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio hyblyg ac ystwyth i gefnogi cydbwysedd bywyd gwaith cadarnhaol, gyda chyfleoedd i weithio mewn ffyrdd sy'n addas i chi a'r gwasanaeth
- Hawl gwyliau blynyddol hael a gwyliau cyhoeddus
- Mynediad i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Ffocws cryf ar iechyd a lles, gyda chefnogaeth ar gael i'ch helpu i gadw'n iach yn y gwaith
- Ystod eang o fudd-daliadau a gostyngiadau i weithwyr, gan gynnwys arbedion ar siopa, teithio a gweithgareddau hamdden bob dydd
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd manwl.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Louise Bassett, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion dros e-bost: lbassett@caerdydd.gov.uk.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau