Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym yn gwneud gwelliannau i’r porthol swyddi ar hyn o bryd, felly efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig o darfu dros dro. Nid yw hyn yn effeithio ar gyhoeddi swyddi gwag â llaw, felly parhewch i rannu eich rolau gyda ni.

Rheolwr Cartref Preswyl Plant

Dyddiad cau 20/06/2026

Cyflogwr

Monmouthshire County Council / Cyngor Sir Fynwy

Lleoliad

  • Sir Fynwy
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£46,142.00 - £50,269.00 per year y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Hysbyseb Swydd

Ydych chi’n angerddol am ddarparu lleoliadau gofal preswyl ansawdd uchel a gaiff eu rhedeg yn dda ar gyfer plant a phobl ifanc? Os felly, mae hwn yn gyfle cyffrous i chi gymryd rhan wrth sefydlu a rheoli cartref(i) preswyl bach ar gyfer plant, wrth i ni anelu i ehangu’r gwasanaeth hwn yn Sir Fynwy.

Bydd y swydd yn cynnwys creu amgylchedd diogel, cefnogol a chyfoethog ar gyfer pobl ifanc/plant.

Byddwch yn arwain ac ysbrydoli tîm ymroddedig, gan sicrhau fod gan ein plant gartrefi diogel a mynediad i’r cyfleoedd addysg, iechyd a hamdden gorau posibl. Bydd gennych ran ganolog wrth greu amgylchedd lle mae pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u grymuso.

Os yw hyn yn swnio fel swydd gyffrous i chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Post Manylion

CYFLOG – GWYBODAETH BWYSIG: Byddai’r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.

Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol):


Lleoliad: TY COED CHILDRENS HOME, Caldicot, NP26 4PP, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.

Yn ystod y Tymor yn unig – Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol): 


GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD:
Bydd apwyntiad i’r rôl hon wedi ei eithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Children Barred List Check

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.