Er mwyn ymgymryd â'r rôl barhaol, lawn amser hon sy'n rhoi boddhad, mae arnom angen unigolyn gwybodus, deinamig ac emosiynol ddeallus sy'n gallu defnyddio ei brofiad blaenorol, ei sgiliau a'i ddealltwriaeth o ofal preswyl plant, i sicrhau bod y cartref yn ffynnu.
Fel ein Rheolwr Cofrestredig, bydd gofyn i chi ddangos sgiliau arwain ymarferol, sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i weithio dan bwysau mewn amgylchedd sy'n gofyn llawer wrth sicrhau bod yr holl ddeddfwriaethau a pholisïau a gweithdrefnau cyfredol yn cael eu dilyn. Byddwch yn Rheolwr a all ddefnyddio eich menter eich hun, arwain tîm i fawredd a defnyddio'ch sgiliau i symud y gwasanaeth yn ei flaen.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn frwd dros hybu dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn o ran arferion, bydd ganddo hanes cadarn yn ei yrfa mewn gofal preswyl i blant, gan gynnwys cofrestriad blaenorol gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Bydd gennych lwyddiant blaenorol o reoli gwasanaeth llwyddiannus a byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 5 mewn arweinyddiaeth a rheolaeth neu'n meddu arno.
Ein cynnig i chi Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, cymorth cynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles, a chynllun hael o ran cyfraniadau pensiwn. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld
yma.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn rhoi cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol eich rôl chi ond yn ogystal, byddwn yn cefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu datblygu eich gyrfa gyda ni.
Y Gymraeg Tra ein bod yn chwilio am Unigolion gyda rhywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau Cymraeg yn cael cynnig gwersi wedi'u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl cael eu penodi.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â sefydliad cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonMwy o wybodaeth Os hoffech fwy o wybodaeth am y rôl hon mae croeso i chi gysylltu â Nerys Lewis ar
nerys.lewis2@ceredigion.gov.ukNoder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy