Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Rheolwr Cynorthwyol Cartref Gofal Preswyl

Dyddiad cau 14/09/2026

Cyflogwr

Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council

Lleoliad

  • Ynys Môn
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£33,119 - £36,581 per year y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Helpu’r Rheolwr Cofrestredig gyda holl agweddau rhedeg cartref o ddydd i ddydd. Sicrhau bod yr holl agweddau o reoli’r cartref yn bodloni gofynion Rheoliadau a’r Safonau Cenedlaethol Isaf ar gyfer Cartrefi Gofal Preswyl (Cymru) 2002.

Gweithredu fel Rheolwr y Cartref ar draws yr ystod cyfan o ddyletswyddau yn absenoldeb y rheolwr Cofrestredig.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.