Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn frwd dros hybu dull gweithredu o safbwynt arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn, bydd ganddo hanes cadarn o ran ei yrfa mewn gofal preswyl plant neu ddarpariaeth gofal a chymorth tebyg.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion fel gweithiwr i chi gan gynnwys lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, cymorth cynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles, a chynllun hael o ran cyfraniadau pensiwn. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael
yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn rhoi cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol eich rôl ond yn ogystal, byddwn yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Tra ein bod yn chwilio am Unigolion gyda rhywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau Cymraeg yn cael cynnig gwersi wedi'u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl cael eu penodi.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â sefydliad cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gareth Hughes:
Gareth.Hughes@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy