Rheolwr Gofal Cartref
Cyflogwr
Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council
Lleoliad
-
Ynys Môn
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £40,777 - £45,091 per year y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae'r Rheolwr Gofal Cartref yn gyfrifol am arweinyddiaeth weithredol ystod o wasanaethau gofal cymunedol, gan gynnwys y Gwasanaeth Gofal Cartref, y Gwasanaeth Ailalluogi, y Gwasanaeth Cymorth Dementia, a'r Gwasanaeth Byw â Chymorth. Mae deiliad y swydd yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu yn ddiogel, yn effeithiol, ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo annibyniaeth, urddas a-chanlyniadau sy'n canolbwyntio ar y person i bob unigolyn sy'n derbyn cefnogaeth.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein