Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Ydych chi’n arweinydd profiadol ac ysbrydoledig ym maes Gwaith Cymdeithasol sy’n chwilio am gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant, pobl ifanc a theuluoedd?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am Reolwr Gwasanaeth eithriadol i arwain ein Gwasanaeth Cymorth ac Ymyrraeth Teuluol. Mae hon yn rôl arweinyddiaeth strategol allweddol o fewn ein Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu, gan gynnig y cyfle i lunio dyfodol darpariaeth gwasanaethau, ysgogi arloesedd a dylanwadu ar newid cadarnhaol ar draws Gwasanaethau Plant.
Gan weithio o fewn egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, byddwch yn hyrwyddo ymarfer sy’n canolbwyntio ar gryfderau a pherthnasoedd, gan sicrhau bod ymyrraeth gynnar, atal a diogelu o ansawdd uchel wrth wraidd popeth a wnawn. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar draws portffolio amrywiol o wasanaethau, gan gydweithio â phartneriaid, cymunedau a theuluoedd i wella canlyniadau a sicrhau bod plant yn cael y cymorth cywir ar yr amser cywir.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth ac Ymyrraeth Teuluol yn dwyn ynghyd ein timau Asesu a Chymorth, Diogelu a Chyfreithiol, Cryfhau Teuluoedd, Amser Teulu a Gweithwyr Sesiynol. Gyda’i gilydd, mae’r gwasanaethau hyn yn darparu asesiadau amserol, ymyriadau wedi’u targedu a chymorth arbenigol i ddiogelu plant, cryfhau gwytnwch teuluoedd a sicrhau canlyniadau cadarnhaol a chynaliadwy. Lle bo angen, mae’r gwasanaeth hefyd yn arwain ar brosesau diogelu statudol ac achosion cyfreithiol i sicrhau bod diogelwch a llesiant plant yn parhau’n hollbwysig.
Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cymwysedig sydd â phrofiad sylweddol o arwain, hanes cryf o wella gwasanaethau ac angerdd dros ddatblygu timau sy’n perfformio’n uchel. Byddwch yn arweinydd arloesol a chydweithredol, sy’n gallu llywio cymhlethdod, ysgogi gwelliant parhaus a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn amgylchedd sy’n datblygu’n gyson.
Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm arweinyddiaeth uchelgeisiol a chefnogol sydd wedi ymrwymo i wella canlyniadau i blant a theuluoedd ledled Conwy. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar gyfeiriad strategol, siapio ymarfer ac arwain arloesedd ar draws ystod amrywiol o wasanaethau, gan helpu i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn derbyn y cymorth o’r ansawdd uchaf pan fo’i angen fwyaf arnynt.
Dyddiad cyfweliad posibl ar 31 Gorffennaf 2026; caiff hyn ei gadarnhau maes o law.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Mark Rowley, Rheolwr y Gweithlu ( Mark.Rowley@conwy.gov.uk / 01492577764)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.