Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Dyddiad y cyfweliad: 11/09/2026
Ydych chi’n arweinydd profiadol sy’n cael eich arwain gan werthoedd, sy’n gallu dod ag egni, hyder a thosturi i wasanaethau sy’n cefnogi rhai o’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymuned? Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel Rheolwr y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn, gan arwain portffolio amrywiol sy’n helpu pobl i gynnal annibyniaeth, gwella lles a chael y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.
Byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar draws y Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Ymgynghorwyr Personol, Tîm Lles Meddyliol, Gwasanaeth Trefniadau Amddifadu o Ryddid, ac Uned y Dirprwy. Byddwch yn atebol i Bennaeth y Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu a byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Penaethiaid Gwasanaeth Oedolion a Thai Strategol hefyd, lle mae cyfrifoldebau’n gorgyffwrdd, a darparu cyngor proffesiynol i’r Cyfarwyddwr a’r Aelod Cabinet perthnasol pan fo gofyn.
Byddwch chi’n arwain gwaith dylunio, darparu a chomisiynu gwasanaethau sy’n ddiogel, effeithiol, cynaliadwy ac sy’n ymateb i anghenion. Mewn amgylchedd ariannol heriol byddwch yn cynnig arweinyddiaeth broffesiynol gref, barn ddoeth a chanolbwynt clir ar ansawdd, perfformiad, gwelliant, llywodraethu a gwerth am arian.
Byddwch hefyd yn cryfhau’r diwylliant diogelu ar draws yr Awdurdod Lleol a chymryd cyfrifoldeb dirprwyedig dros swyddogaeth Penderfynwr yr Asiantaeth, gan gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau cadarn ac amserol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Gwasanaeth Maethu.
Rydym yn chwilio am arweinydd gwydn, cydweithredol a blaengar, sydd â barn gadarn, sgiliau cyfathrebu cryf a’r hyder i feithrin perthnasoedd ar draws gwasanaethau oedolion a phlant, partneriaid a chydweithwyr.
Os ydych chi’n cael eich cymell gan gyfle i wneud gwir wahaniaeth a ffurfio gwasanaethau ar draws portffolio amrywiol ac ystyrlon, byddem yn croesawu eich cais. I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Stephanie Robbins ar 01492 575358 neu Stephanie.robbins@conwy.gov.uk
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Stephanie Robbins, Pennaeth Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu ( Stephanie.robbins@conwy.gov.uk / 01492 575358)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i siarad gyda defnyddwyr gwasanaeth yn Gymraeg yn ddymunol, ac rydym yn annog ymgeiswyr sy’n rhugl yn y Gymraeg i ymgeisio am y swydd. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.