37 awr yr wythnos
A ydych yn arweinydd profiadol sydd ag angerdd am ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth o ansawdd uchel?
Rydym yn chwilio am Reolwr Gweithredol Cynorthwyol brwdfrydig a llawn cymhelliant i gefnogi'r gwaith o arwain ein Gwasanaethau Asesu ac Ailalluogi Tymor Byr, ein Gwasanaeth Ymateb Symudol a'n darpariaeth yn CEF y Parc, a'u rheoli o ddydd i ddydd.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol profiadol sy'n ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n hyrwyddo annibyniaeth, llesiant a chanlyniadau cadarnhaol i unigolion.
Y Rôl
A chithau'n Rheolwr Gweithredol Cynorthwyol, byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Cofrestredig i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n bodloni gofynion rheoliadol a safonau sefydliadol yn cael eu darparu'n effeithiol. Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi staff, rheoli perfformiad gweithredol, cynnal cydymffurfiaeth, ac ysgogi gwelliant parhaus.
Byddwch hefyd yn dirprwyo dros y Rheolwr Cofrestredig pan fo angen, gan ddarparu arweinyddiaeth a sicrhau parhad y gwasanaeth, cydymffurfiaeth reoleiddiol a rheoli risg effeithiol.
Cyfrifoldebau Allweddol
Cefnogi'r gwaith o ddarparu Gwasanaethau Asesu ac Ailalluogi Tymor Byr drwy reoli atgyfeiriadau yn effeithiol, prosesau asesu ac ymyriadau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Hyrwyddo dulliau sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n hybu annibyniaeth, urddas, dewis a llesiant.
Darparu arweinyddiaeth a chymorth i dimau, gan feithrin diwylliant cadarnhaol, atebol ac sy'n perfformio'n dda.
Goruchwylio'r gwaith o recriwtio, sefydlu, goruchwylio, hyfforddi a datblygu'r gweithlu yn unol â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru.
Cefnogi cynllunio rota, rheoli capasiti'r gweithlu a phrosesau rheoli absenoldeb.
Monitro cydymffurfiaeth â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a RISCA drwy archwiliadau, gweithgarwch sicrhau ansawdd ac adolygiadau gwasanaethau.
Arwain prosesau diogelu, rheoli risg, iechyd a diogelwch a rheoli digwyddiadau.
Cefnogi swyddogaethau gweithredol gan gynnwys cydlynu cerbydlu a systemau amserlennu electronig (CM2000).
Datblygu partneriaethau effeithiol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, cydweithwyr gofal cymdeithasol ac asiantaethau allanol i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau integredig.
Cyfrannu at lwybrau rhyddhau o'r ysbyty, mentrau atal derbyniadau i'r ysbyty a gweithio amlasiantaeth.
Dadansoddi data perfformiad, monitro canlyniadau a nodi cyfleoedd ar gyfer gwella gwasanaeth ac arloesi.
Cynrychioli'r gwasanaeth mewn cyfarfodydd, fforymau, arolygiadau ac adolygiadau yn ôl yr angen.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
 phrofiad ym maes gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ddelfrydol mewn swydd arwain neu oruchwylio.
Yn dangos sgiliau arwain, trefnu a chyfathrebu cryf.
 dealltwriaeth gadarn o ddiogelu, rheoli risg, sicrhau ansawdd a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
Yn ymrwymedig i ddarparu gofal a chymorth rhagorol sy'n canolbwyntio ar y person.
Yn gallu rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd yn effeithiol mewn amgylchedd gweithredol prysur.
 phrofiad o reoli'r gweithlu, monitro perfformiad a datblygu staff.
Yn hyderus yn gweithio ar y cyd ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a sefydliadau partner.
Yn ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i gynnal cofrestriad perthnasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
I ddysgu rhagor am rôl y swydd ffoniwch Claire James, Rheolwr Gweithredol ar 01656 642748 neu anfonwch neges e-bost at Claire.James@bridgend.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Gweithio ar Benwythnosau, a un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 07 Hydref 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 09 Hydref 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 16 Hydref 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person