Am Y Gwasanaeth
Yng Ngwasanaethau Plant Caerdydd, credwn fod pob plentyn yn haeddu'r cyfle i dyfu i fyny mewn amgylchedd teuluol diogel, sefydlog a chariadus. Rydym yn chwilio am Reolwr Gweithredol profiadol ac uchelgeisiol i arwain Maethu Cymru Caerdydd a'n Gwasanaethau Perthnasau a Sefydlogrwydd, gan lunio gofal teuluol o ansawdd uchel a sicrhau bod plant yn cyflawni sefydlogrwydd cyn gynted â phosibl.
Mae hon yn rôl arwain arwyddocaol gyda chyfrifoldeb am faethu, asesiadau Person Cysylltiedig a Gwarcheidiaeth Arbennig, Pan Fydda i'n Barod a Llety â Chymorth, gwasanaethau cymorth maethu a pherthnasau, a threfniadau sefydlogrwydd ledled y ddinas.
Am Y Swydd
Fel Rheolwr Gweithredol, byddwch chi’n darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar draws gwasanaethau maethu, gofal perthnasau a sefydlogrwydd, gan sbarduno Strategaeth Sefydlogrwydd Caerdydd ac ehangu opsiynau gofal lleol i blant a phobl ifanc.
Gan weithio'n agos gydag uwch arweinwyr, ymarferwyr a phartneriaid rhanbarthol, byddwch chi’n:
- Arwain a datblygu gwasanaethau maethu, gofal perthnasau a sefydlogrwydd o ansawdd uchel.
- Sicrhau bod plant yn cyflawni gofal sefydlog, hirdymor yn seiliedig ar deuluoedd cyn gynted â phosibl.
- Sbarduno arloesedd, gwella gwasanaethau a newid trawsnewidiol.
- Cryfhau recriwtio, asesu a chefnogaeth i ofalwyr maeth, gofalwyr sy’n berthnasau a Gwarcheidwaid Arbennig.
- Ymgorffori ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, sy'n canolbwyntio ar berthynas ar draws gwasanaethau.
- Goruchwylio sicrwydd ansawdd, datblygu'r gweithlu, perfformiad a chydymffurfio rheoleiddiol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Byddwch chi’n arweinydd ysbrydoledig gyda phrofiad sylweddol mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol plant a lleoli gyda theuluoedd, gan ddod â’r canlynol:
- Profiad o arwain a rheoli o fewn gwasanaethau plant.
- Gwybodaeth gref am faethu, gofal perthnasau, cynllunio sefydlogrwydd a threfniadau Gwarcheidiaeth Arbennig.
- Dealltwriaeth arbenigol o ddeddfwriaeth, gofynion diogelu a rheoleiddio gofal cymdeithasol Cymru.
- Profiad o arwain trawsnewid gwasanaeth, gwella a gweithio mewn partneriaeth.
- Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a datblygu perthynas rhagorol.
- Ymrwymiad i hawliau plant a chyflawni canlyniadau rhagorol i blant a theuluoedd.
Pam ymuno â Chaerdydd?
Mae hwn yn gyfle prin i ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau maethu, gofal perthnasau a sefydlogrwydd ym mhrifddinas Cymru. Byddwch chi’n ymuno â thîm arweinyddiaeth cefnogol ac uchelgeisiol sydd wedi ymrwymo i arloesi, cydweithio a darparu'r cymorth gorau posibl i blant, gofalwyr a theuluoedd.
Os ydych chi'n arweinydd sydd â gwerthoedd yn eich llywio, sy'n angerddol am helpu plant i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd, cymunedau a rhwydweithiau cymorth lle bynnag y bo modd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ymunwch â ni a helpu i greu mwy o gyfleoedd i blant brofi'r sefydlogrwydd, diogelwch ac ymdeimlad o berthyn sy'n dod yn sgil tyfu i fyny mewn cartref teuluol meithringar.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen gwiriad GDG manwl ar gyfer y swydd hon.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swyddi hyn yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau