Rheolwr Gweithredu Prosiectau – Rhaglen Gyfalaf Gofal Cymdeithasol
Cyngor Sir Penfro
Gradd 10 | Comisiynu Strategol – Gofal Cymdeithasol a Thai
Rydym yn chwilio am Reolwr Gweithredu Prosiectau profiadol i arwain y gwaith o gyflawni prosiectau cyfalaf gofal cymdeithasol allweddol a fydd yn llywio gwasanaethau ledled Sir Benfro am ddegawdau i ddod.
Wedi'i lleoli o fewn yr adran Comisiynu Strategol, mae'r rôl hon yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyflawni Cynllun Comisiynu Strategol Gofal Cymdeithasol y Cyngor 2025–2035, gan gydweithio â chydweithwyr Gofal Cymdeithasol a Thai, Gwasanaethau Adeiladu Proffesiynol ac ystod eang o bartneriaid allanol.
Dyma gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol—troi uchelgais strategol yn ganlyniadau cyfalaf llwyddiannus o ansawdd uchel— o fewn sefydliad cefnogol sy'n canolbwyntio ar bartneriaeth.
Pam Sir Benfro?
Rydym wedi ymrwymo i greu'r amodau cywir er mwyn cynnig darpariaeth gynaliadwy o ansawdd uchel, gan gynnwys:
- Diwylliant gweithio cydweithredol, sy'n seiliedig ar bartneriaeth
- Prosiectau cyfalaf ystyrlon, proffil uchel sy’n cael effaith wirioneddol ar y gymuned
- Cefnogaeth broffesiynol gref o fewn yr adran Comisiynu Strategol
- Cyfleon i ymgysylltu’n adeiladol ag uwch arweinwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau
- Pwyslais ar ddysgu, gwelliant parhaus a barn broffesiynol
- Y cyfle i fyw a gweithio ym mhrydferthwch Sir Benfro
Beth sydd ar gael
- Cyflog Gradd 10 cystadleuol, sy'n adlewyrchu profiad ac effaith y rôl
- Cydbwysedd rhagorol rhwng bywyd a gwaith, gyda 26 diwrnod o wyliau blynyddol, yn cynyddu i 31 diwrnod, ynghyd â gwyliau banc
- Yr hyblygrwydd i lywio pryd a sut yr ydych yn gweithio, trwy drefniadau gweithio ystwyth a hyblyg
- Y dewis i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol, gan roi hyd yn oed mwy o reolaeth i chi dros eich amser
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol rhagorol, gyda chyfraniadau cyflogwr uwch a'r opsiwn i wneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol
- Ffocws cryf ar lesiant, wedi'i gefnogi gan ystod gynhwysfawr o bolisïau a gynlluniwyd i gefnogi bywyd gwaith iach a chynaliadwy
- Pecyn adleoli o hyd at £8,000 (yn amodol ar gymhwysedd), er mwyn eich helpu i symud i'r ardal yn ddidrafferth
- Y cyfle i arwain prosiectau sy'n gadael etifeddiaeth barhaus, gan wella seilwaith y maes gofal cymdeithasol a chanlyniadau cymunedau ledled Sir Benfro
- Y cyfle i fyw a gweithio yn un o ardaloedd harddaf y DU, gydag arfordir a chefn gwlad godidog a’r ymdeimlad o gymuned gwirioneddol ar garreg eich drws.
Ynglŷn â’r rôl
Fel Rheolwr Gweithredu Prosiectau, byddwch yn arwain prosiectau cyfalaf gofal cymdeithasol a neilltuwyd ar eich cyfer, o'r cyfnod cychwynnol hyd at eu cwblhau. Byddwch yn gyfrifol am y canlynol:
- Rheoli'r ddarpariaeth yn ôl amcanion, amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt
- Sefydlu a chynnal fframweithiau llywodraethu, cynllunio a rheoli risgiau, rhagdybiaethau, materion a dibyniaethau cadarn prosiectau
- Monitro cynnydd yn rhagweithiol, datrys problemau ac uwchgyfeirio risgiau yn ôl yr angen
- Paratoi ceisiadau am gyllid ac achosion busnes gan ddefnyddio'r dull pum achos
- Rheoli timau prosiect amlddisgyblaethol ar draws swyddogaethau a chydlynu cyfranwyr mewnol ac allanol
- Meithrin cydberthnasau cryf â rhanddeiliaid gan gynnwys yr adrannau Iechyd a Thai, partneriaid cyfalaf rhanbarthol, y sector gwirfoddol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
- Adrodd ar gynnydd a pherfformiad i fyrddau rhaglenni, timau rheoli cyfarwyddiaethau ac uwch-arweinwyr
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
- Addysg lefel gradd neu brofiad perthnasol cyfatebol
- Cymhwyster PRINCE2 neu gymhwyster rheoli prosiectau cyfatebol
- Profiad amlwg o gyflawni prosiectau cyfalaf cymhleth o’u dechrau i’w diwedd
- Gwybodaeth gref am fethodolegau rheoli prosiectau, rheolaeth ariannol ac adrodd
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol
- Y gallu i ddylanwadu ar randdeiliaid uwch ac i ymgysylltu â nhw
- Lefel uchel o gymhwysedd digidol a phrofiad o ddefnyddio systemau rheoli prosiectau
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol
Rydym yn croesawu sgyrsiau anffurfiol am y rôl, y rhaglen waith, neu sut beth yw gweithio ym maes Comisiynu Strategol yng Nghyngor Sir Penfro.
Ian Randell, Rheolwr Comisiynu Strategol
Manylion Cyswllt: ian.randell@pembrokeshire.gov.uk
Dyddiad cau: Dydd Llun 29 Mehefin 2026
Cyfweliadau: Dydd Gwener 08 Mehefin 2026 – Neuadd y Sir, Hwlffordd
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae’r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a’ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy’n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o’r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a’ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy’n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â’r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu’r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p’un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor neu’n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk.
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae’r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy’n bodloni manyleb y person ac sydd wedi’u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.