Rydyn ni'n recriwtio Rheolwr Gwybodaeth a Pherfformiad yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Woodfieldside, Pontllanfraith
Tîm: Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,581 - £39,481 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Rydyn ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol a dadansoddol gyda chefndir cryf mewn dadansoddi data, adrodd ar berfformiad a rheoli gwybodaeth. Bydd gennych chi brofiad helaeth o gynhyrchu a chyflwyno enillion data perfformiad, dadansoddi setiau data cymhleth a chyflwyno gwybodaeth am berfformiad i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar wybodaeth uwch am gronfeydd data a systemau rheoli perfformiad, gyda'r gallu i fonitro, dadansoddi ac adrodd ar ddangosyddion perfformiad allweddol. Hefyd, bydd gennych chi lwyddiant blaenorol o arwain a datblygu timau perfformiad uchel a byddwch chi’n hyderus yn gweithio mewn amgylchedd aml-asiantaeth, meithrin perthnasoedd effeithiol ac ymateb i anghenion gwybodaeth perfformiad amrywiaeth o randdeiliaid.
Dyma gyfle gwych i rywun sy'n angerddol am ddefnyddio data a mewnwelediad i ategu gwella gwasanaethau a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Cymhwyster Lefel 4 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
- Ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth amlasiantaethol a pharodrwydd i weithio ar draws ffiniau.
Profiad o oruchwylio a rheoli staff.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Michaela Rogers ar 01495 235623 neu ebost ROGERM@CAERPHILLY.GOV.UK / WWWYOS@CAERPHILLY.GOV.UK
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.