Am Y Gwasanaeth
Mae Caerdydd, fel prifddinas Cymru a'r awdurdod lleol mwyaf, yn cefnogi tua 1,200 o bobl ag ystod eang o anghenion gofal a chymorth i fyw'n dda a chyflawni eu canlyniadau.
Mae ein timau Anableddau Dysgu yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth i oedolion sydd ag anableddau dysgu a'u gofalwyr, gan weithio'n agos gyda phartneriaid amlddisgyblaethol.
Mae'r Tîm Byw â Chymorth Anableddau Dysgu yn goruchwylio contractau byw â chymorth a Bywydau a Rennir, gan weithio gyda darparwyr, partneriaid tai, comisiynwyr, gweithwyr cymdeithasol a chydweithwyr iechyd i ddarparu llety o ansawdd uchel.
Rydym yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gefnogi pobl i hybu annibyniaeth, cael mynediad at gyfleoedd lleol a bod yn rhan o'u cymunedau.
Am Y Swydd
Mae cyfle wedi codi i ymuno â Gwasanaeth Anableddau Dysgu Caerdydd fel Rheolwr Prosiect Byw â Chymorth ar sail chwe mis dros dro.
Bydd y swydd yn arwain a chydlynu prosiectau llety ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu, gan gynnwys byw â chymorth, Bywydau a Rennir ac opsiynau llety eraill sy'n hyrwyddo annibyniaeth, lles a chanlyniadau cadarnhaol.
Byddwch yn nodi anghenion llety, yn datblygu atebion tai, yn goruchwylio cynllunio symud, ac yn cefnogi amcanion Anableddau Dysgu ac "Yn Nes at y Cartref" Cyngor Caerdydd.
Gan weithio gydag unigolion, teuluoedd, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, cydweithwyr tai, darparwyr a chomisiynwyr, byddwch yn sicrhau bod trefniadau llety yn canolbwyntio ar y person, yn amserol ac yn gynaliadwy.
Byddwch yn cydlynu cyfarfodydd prosiect, datblygu cynlluniau prosiect, olrhain cynnydd, rheoli risgiau, goruchwylio atgyfeiriadau a pharu, a chynhyrchu adroddiadau clir, cofnodion a dogfennau prosiect.
Rydym yn chwilio am ymarferydd hyderus, trefnus gyda sgiliau cydlynu prosiectau cryf ac ymrwymiad i wella canlyniadau.
Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig buddion gwych i staff, gan gynnwys:
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Rydym yn cynnig gweithio hyblyg a hybrid gyda disgwyliad y byddwch yn gweithio mewn swyddfa o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
- Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu rhagorol.
- Cymorth a gynigir drwy fentoriaeth gyda chymorth gan uwch reolwyr.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd gennych lefel dda o addysg ac o leiaf ddwy flynedd o brofiad mewn maes datblygu. Mae cymhwyster addysg uwch, rheoli prosiectau neu ddatblygu yn ddymunol.
Byddwch yn deall y maes datblygu tai cymdeithasol, cynllunio llety, byw â chymorth ac anghenion oedolion ag anableddau dysgu.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu cryf, profiad o weithio gydag ystod o randdeiliaid, a hyder wrth drefnu, cadeirio a chydlynu cyfarfodydd.
Byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm, rheoli gofynion cystadleuol, cwrdd â dyddiadau cau, a chynhyrchu cofnodion ac adroddiadau clir.
Byddwch yn barchus, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy, gyda gwerthoedd sy'n cefnogi cydraddoldeb, gweithio mewn partneriaeth, cyfrinachedd ac ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person.
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Noder bod pob swydd a hysbysebir yma yn destun gwiriadau manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2027.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Emma Jo McDonald (EMcDonald@caerdydd.gov.uk) Emma Mulinder (EMulinder@caerdydd.gov.uk)
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau