Am Y Gwasanaeth
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn chwilio am Reolwr Sicrwydd Ansawdd i arwain ar y gwaith gweithredu:
Strategaeth Sicrwydd Ansawdd ac Archwilio ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Oedolion Prosesau Sicrwydd Ansawdd cadarn ar draws y Gyfarwyddiaeth.
Am Y Swydd
Yn y rôl o Reolwr Sicrwydd Ansawdd byddwch yn ymuno â thîm ymroddgar ac ymrwymedig i ddarparu gofal a chymorth i Ddinasyddion Caerdydd.
Byd y rôl hon yn addas i weithiwr cymdeithasol profiadol sy’n credu yng ngwerthoedd gwaith cymdeithasol ac sy’n ffynnu ar ddatblygiad parhaus a gwella gwasanaeth.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
- Sgiliau trefnu rhagorol a manwl gywirdeb
- Sgiliau cyfathrebu cryf
- Profiad o reoli eraill
- Gallu ymarfer swyddogaeth arwain a herio gyda rheolwyr tîm ac ymarferwyr gwaith cymdeithasol
- Gallu nodi meysydd polisi a gwella arfer ac arwain ar eu gweithrediad
Byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau i ledaenu arfer da ar draws y gweithlu a chodi disgwyliadau y bydd y gwaith a wnawn o’r safon uchaf.
Os ydych yn berson sydd wedi dod i arfer ag amgylchedd prysur, yn credu yng ngwerth gwaith cymdeithasol a gallwch hyrwyddo diwylliant ‘arfer gorau yn gyntaf’ ar draws y gweithlu, yna gallai hon fod yn swydd addas i chi.
Gwybodaeth Ychwanegol
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Joanne Stroud (Rheolwr Gwasanaeth), Rheolwr Gweithredol, Gwasanaethau Plant Caerdydd ar (029) 2087 3830.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch ac amddiffyn pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Laura.White3@cardiff.gov.uk drefnu amser cyfleus i bawb.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau