37 awr yr wythnos
Cyfnod penodol tan fis Mawrth 2028, gydag estyniad posibl, yn amodol ar gyllid parhaus
Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn buddsoddi'n sylweddol yn ei system blynyddoedd cynnar i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn. Gydag ehangu gofal plant ac ymgyrch i wella integreiddio, seilwaith a digonolrwydd ymhellach, rydym yn creu uwch swydd newydd i gryfhau ein gallu strategol.
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol a blaengar i gymryd cyfrifoldeb am y systemau, y seilwaith, y partneriaethau a'r mecanweithiau cyflawni sy'n sail i'n gwasanaethau blynyddoedd cynnar.
Bydd y rôl yn rhan allweddol o'r uwch dîm arweinyddiaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant ac yn gweithio'n agos gyda'r Arweinydd Strategol ar gyfer Addysg Gynnar a Gofal Plant i sicrhau dull cydlynol, system gyfan ar draws ein bwrdeistref sirol.
Y Rôl
Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni strategaeth weithredol a seilwaith blynyddoedd cynnar Pen-y-bont ar Ogwr, gan sicrhau cysondeb â pholisi cenedlaethol, fframweithiau statudol ac anghenion lleol, a darparu goruchwyliaeth strategol o'r canlynol:
- Partneriaethau a gweithio integredig
- Digonolrwydd gofal plant a chynllunio'r gweithlu
- Cynllunio ehangu gofal plant, gan gynnwys nodi prosiectau cyfalaf
- Rheoli safleoedd ac iechyd a diogelwch ar draws y portffolio blynyddoedd cynnar
- Systemau busnes craidd a phrosesau gweithredol
Bydd deiliad y swydd yn rheoli'r arweinwyr strategol ar gyfer partneriaethau a phrosiectau, prosesau digonolrwydd a busnes, gan sicrhau cysondeb cryf ar draws y swyddogaethau hyn, wrth gynnal ffocws clir ar ganlyniadau i blant a theuluoedd.
Amdanoch chi
Byddwch yn uwch arweinydd credadwy gyda:
- Phrofiad sylweddol o weithio ar lefel strategol o fewn blynyddoedd cynnar, addysg, gwasanaethau plant, iechyd cyhoeddus neu faes cysylltiedig.
- Dealltwriaeth gref o bolisi blynyddoedd cynnar Cymru, gan gynnwys Dechrau'n Deg, digonolrwydd gofal plant a darparu gwasanaethau integredig.
- Profiad amlwg o weithio mewn partneriaeth effeithiol, rheoli rhaglenni cymhleth a thrawsnewid gwasanaethau.
- Hyder wrth ddefnyddio data i lywio cynllunio strategol a gwneud penderfyniadau.
- Gallu meithrin perthnasoedd gwaith cryf ar draws gwasanaethau'r awdurdod lleol, iechyd, Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector.
- Arddull arweinyddiaeth glir, gydweithredol, gyda'r gallu i sicrhau cysondeb ar draws swyddogaethau amrywiol.
Mae hwn yn gyfle prin i helpu i lunio a datblygu ein system blynyddoedd cynnar ar adeg dyngedfennol o dwf a diwygio. Mae'r rôl yn cynnig dylanwad strategol gwirioneddol, gweithio mewn partneriaeth lefel uchel a'r cyfle i gael effaith barhaol ar ganlyniadau i blant ifanc a theuluoedd ledled Pen-y-bont ar Ogwr. Argymhellir yn gryf eich bod yn cael sgwrs anffurfiol cyn gwneud cais ac mae hyn yn cael ei annog yn frwd. I drefnu hyn, cysylltwch â Tanya Smith, Pennaeth Strategaeth, Blynyddoedd Cynnar ac Ieuenctid (tanya.smith@bridgend.gov.uk)
Sylwer bod y rôl wedi'i lleoli yng Nghanolfan Blant Integredig Corneli gydag elfen o weithio hybrid a'r gofyniad i ymweld â lleoliadau ledled y fwrdeistref sirol hefyd wedi'i gynnwys fel rhan o'r rôl hon. Felly, rhaid i ymgeiswyr gael cysylltiad dibynadwy â'r rhyngrwyd yn y cartref, trwydded yrru lawn a char at eich defnydd chi yn unig yn ystod oriau gwaith.
Os ydych yn teimlo eich bod yn meddu ar y sgiliau, y profiad a'r angerdd angenrheidiol i ffynnu yn yr hyn sy'n addo bod yn rôl amrywiol, gyffrous a phrysur, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 05 Awst 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer:
Dyddiad y Cyfweliad:
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person