Oriau gwaith: 37 oriau (phatrymau gweithio 3 wythnos - dydd Sul i ddydd Sadwrn - 4 x 7.5 awr ac 1 x sifft 7 awr.)
Math o gontract: Cyfnod Penodol Tan 31 ain Rhagfyr 2024, Llawn Amser
Lleoliad: Cartref Preswyl Beatrice Webb
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau i Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £44,428 - £47,420 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi'n Ddirprwy Reolwr neu'n Rheolwr profiadol sy'n chwilio am y cyfle nesaf yn eich gyrfa? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am Reolwr Tîm ar gyfer Cartref Preswyl Beatrice Webb yng Nghoed Duon.
Os yw'n bwysig i chi fod y bobl rydyn ni'n eu cynorthwyo yn byw bywydau hapus, iach ac ystyrlon, a bod eich gyrfa yn rhoi her a boddhad i chi, Yna, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Bydd y person delfrydol ar gyfer y rôl hon yn rheolwr ysbrydoledig a chreadigol sy'n gallu arwain ein tîm gwych a chymryd cyfrifoldeb am yr holl agweddau gweithredol ar y cartref.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Y cymwysterau gorfodol sydd wedi'u gosod gan Gofal Cymdeithasol Cymru i gofrestru fel Rheolwr Cartref Gofal i Oedolion. (Cyfeiriwch at wefan Gofal Cymdeithasol Cymru i weld y cymwysterau sy'n cael eu derbyn ar hyn o bryd)
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol perthnasol a dealltwriaeth ohoni. Er enghraifft, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, deddfwriaeth iechyd a diogelwch
- Y gallu i gyfathrebu ar bob lefel, yn enwedig gydag unigolion sy'n byw yn y cartref, teuluoedd, ac asiantaethau proffesiynol eraill.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Tracey Walters ar 07968 375059 neu ebost:
waltet@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.