Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Ydych chi'n arweinydd ysbrydoledig sy'n angerddol am sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant, pobl ifanc ac oedolion ifanc ag anableddau?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am Reolwr Tîm profiadol i arwain tîm deinamig o fewn y Gwasanaeth Anableddau Plant ac Oedolion Ifanc. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n hyrwyddo annibyniaeth, gwydnwch a throsglwyddiad llwyddiannus i oedolaeth.
Bydd y rôl yn cynnwys:
• Arwain, goruchwylio a datblygu tîm proffesiynol amlddisgyblaethol.
• Sicrhau bod asesiadau, adolygiadau a dyletswyddau statudol yn cael eu cwblhau o fewn graddfa amser.
• Darparu goruchwyliaeth broffesiynol, sicrwydd ansawdd a goruchwyliaeth o benderfyniadau achos.
• Gweithio'n agos gyda chydweithwyr mewn Addysg, Iechyd a sefydliadau partner i ddarparu ymateb integredig i anghenion unigolion.
• Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau, arloesi ac effeithlonrwydd wrth sicrhau gwerth am arian.
• Rheoli adnoddau, cyllidebau a pherfformiad i gyflawni canlyniadau rhagorol i blant a theuluoedd.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â chymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol neu nyrsio, ynghyd â phrofiad sylweddol o weithio gyda phobl ag anableddau ac arwain timau. Dylai fod gennych wybodaeth gadarn am y ddeddfwriaeth a'r canllawiau perthnasol sy'n ymwneud â phlant ac oedolion, a'r gallu i feithrin diwylliant o berfformiad uchel, ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwelliant parhaus.
Mae hwn yn gyfle ardderchog i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth arwain gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n edrych i'r dyfodol.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Clare Williams , Rheolwr Adain (Clare.williams@conwy.gov.uk / 01492 575383)
Gofynion y Gymraeg:
Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.