Rhif swydd. SSAC0110.4 - Rheolwr Tîm Cynorthwyol
Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Tîm Cynorthwyol rhagorol i helpu i arwain a llunio ein gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty yng Nghasnewydd. Mae hwn yn gyfle gwych i weithiwr proffesiynol brwdfrydig, medrus a thosturiol chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl i adael yr ysbyty yn ddiogel, yn brydlon a chyda'r gefnogaeth gywir yn ei lle.
Mae Gwasanaeth Rhyddhau o'r Ysbyty Casnewydd yn dîm ymroddedig sy'n symud yn gyflym ac wedi'i leoli yn Ysbyty Brenhinol Gwent, sy'n gweithio ar draws lleoliadau ysbyty i gefnogi preswylwyr Casnewydd ar adegau allweddol yn eu taith adfer a rhyddhau. Mae'r rheini sy’n aelodau o’r tîm yn gymysgedd o staff sydd wedi cymhwyso a rhai and ydynt ac maent yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr iechyd a phartneriaid ehangach i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, sy'n canolbwyntio ar y person, ar gyfer unigolion a gofalwyr.
Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda Home First, tîm arbenigol a gynhelir gan Gasnewydd sy'n darparu gwasanaeth ymateb cyflym ar ran y pum awdurdod lleol yng Ngwent. Mae'r bartneriaeth agos hon yn cryfhau ein llwybrau rhyddhau ac yn creu dull cwbl integredig, amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar leihau oedi a hyrwyddo annibyniaeth o'r cam cynharaf posibl.
Fel Rheolwr Tîm Cynorthwyol, byddwch yn chwarae rôl arwain allweddol wrth gefnogi a datblygu trefniadau rhyddhau effeithiol o'r ysbyty mewn amgylchedd heriol sy’n rhoi llawer o foddhad. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar ddarparu gwasanaethau, cryfhau llwybrau, cefnogi gwella arferion a helpu i lunio ymatebion arloesol mewn lleoliad deinamig, cyflym lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster proffesiynol perthnasol, fel Gweithiwr Cymdeithasol neu Therapi Galwedigaethol, a bydd ganddynt sgiliau arwain cryf, barn broffesiynol gadarn ac ymrwymiad i ymarfer o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar gryfderau. Byddwch yn darparu cymorth gweladwy ar y safle i staff, yn gweithio'n hyderus gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn cefnogi'r Rheolwr Tîm, ac yn helpu i reoli, datblygu a gwella’r gwasanaeth yn barhaus. Os ydych wedi ymrwymo i bartneriaeth gydweithredol, yn rhagori mewn amgylcheddau pwysedd uchel, ac yn mwynhau cael effaith gadarnhaol ar unigolion yn ystod cyfnodau critigol eu bywydau, hoffem eich gwahodd i wneud cais am y swydd.
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Maggie Slack Maggie.Slack@casnewydd.gov.uk neu 07890 032404.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw dydd Sul 7fed Mehefin 2026
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd