Mae Tîm y Llys yn rheoli cynlluniau gofal i'r plant hynny sydd ger bron y Llys. Bydd y rôl yn cynnwys arwain tîm bach o ymarferwyr gwaith cymdeithasol, eu cefnogi i ddarparu asesiadau o ansawdd uchel a thystiolaeth i'r llysoedd, gan gynnwys asesiadau o ansawdd uchel a thystiolaeth i'r llysoedd, gan gynnwys gwaith uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod profiadau bywyd plant a'u lleisiau yn cael eu tystiolaethu a'u bwydo i mewn i'w cynllun gofal. Bydd y rôl/ tîm yn cefnogi'r gwasanaeth i symud y canolbwynt tuag at Cyn-drafodion, yn unol ag Ail-lansio PLO.
Amdanoch chi: - Byddwch chi'n angerddol ynghylch cefnogi newid i blant a theuluoedd a/neu ofalwyr.
- Byddwch chi'n drefnus ac yn hyblyg i ddiwallu anghenion y sawl yr ydych yn eu cefnogi.
- Bydd sgiliau cyfathrebu ac ysgrifenyddol da gennych.
- Byddwch chi'n gallu dynodi risg a ffurfio cynlluniau diogelu, gan ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder.
- Bydd dealltwriaeth gadarn gennych o Ail-lansio PLO a'r defnydd ohono oddi fewn i ymarferiad
Beth fyddwch chi'n ei wneud: - Bydd yr unigolyn yn arwain tîm bach o ymarferwyr gwaith cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar gynlluniau gofal plant ger bron y llys.
- Darparu sgiliau arwain cadarn i'r tîm
- Darparu canllawiau arbenigol a chyngor arbenigol i'r gwasanaeth ehangach ynghylch Amlinelliadau Cyfraith Gyhoeddus
- Cefnogi'r Gwasanaeth Cefnogi a Gofal wrth ddatblygu nodau Ail-lansio PLO
- Darparu goruchwyliaeth fyfyriol o ansawdd uchel i'r tîm