Byddwch yn arwain eich tîm gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau o ran eich ymarfer, gan weithio gyda phobl i hyrwyddo a gwneud y gorau o fyw'n annibynnol. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein hymyriadau a'r cymorth a roddwn i'n haelodau staff. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion ac rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy'n rhannu ein hymrwymiad ac sy'n gallu arwain timau i ymwreiddio'r diwylliant hwn.
Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio ystwyth a hyblyg.
Am Y Swydd
Rydym yn ceisio recriwtio Rheolwr Tîm, a fydd yn arweinydd gwaith cymdeithasol o fewn y TIMC / tîm Fforensig. Mae'r timau'n gweithio ar draws cymunedau Caerdydd. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth i lunio'r model cyflawni yn y dyfodol, datblygu gwasanaethau a gweithdrefnau, a sicrhau bod ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn ganolog i hyn. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y Cyngor, Iechyd, y sector preifat a'r Trydydd Sector. Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu trwy dimau amlddisgyblaethol a bydd cydweithio â dinasyddion, gofalwyr di-dâl, teuluoedd, a chydweithwyr yn ganolog i hyn. Mae profiad o ddatblygu a chryfhau perthnasau ag asiantaethau partner a chydweithwyr yn hanfodol.
Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o arwain a rheoli timau gofal cymdeithasol, goruchwylio staff ac arbenigedd wrth sicrhau bod timau'n gweithio'n effeithiol i reoli systemau cymhleth mewn modd amserol a phroffesiynol. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o arwain a rheoli staff mewn ymarfer Gwaith Cymdeithasol. Byddwch yn gallu datblygu ymatebion ac ystyried defnyddio gwasanaethau mewn ffordd hyblyg a gallu arwain staff ymlaen gan ddefnyddio dulliau cydweithio a mentora.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion sydd â phrofiad amlwg o reoli / goruchwylio i'n timau iechyd meddwl. Rydym yn chwilio am unigolion sydd wedi ymrwymo i roi ein dinasyddion wrth wraidd y gwaith a wnawn ac i ddatblygu timau sy'n canolbwyntio ar ymateb proffesiynol a thosturiol i'n dinasyddion.
Byddwch yn weithiwr cymdeithasol cymwys ac wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, a bydd gennych o leiaf pum mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso a gwybodaeth gadarn am y fframwaith deddfwriaethol wrth lywodraethu'r arena gofal cymdeithasol, a byddwch yn gallu cefnogi ac arwain aelodau'r tîm yn ogystal â rhoi arweiniad i gydweithwyr yn y Cyngor a phartneriaid eraill.
• Byddwch yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy y mae lwfans ychwanegol yn cael ei dalu ar ei gyfer.
• Byddwch yn gallu deall gwaith y gwasanaeth, defnyddio staff yn briodol a meddwl yn strategol i sicrhau bod y gwasanaeth yn y sefyllfa orau i barhau â'i waith gan ragweld a rheoli heriau.
• Byddwch wedi cronni profiad sylweddol o reoli achosion cymhleth a heriol ac yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth iechyd meddwl a galluedd meddyliol a'r codau ymarfer perthnasol.
• Byddwch yn deall pob agwedd ar gyfrifoldebau cyllido a dulliau o ran parhau â chronfeydd gofal iechyd a’u prosesu.
• Mae'n rhaid i chi fod yn ddadansoddol, yn rhagweithiol, yn canolbwyntio ar atebion, gydag ymrwymiad i ddatblygu ymarfer gwaith cymdeithasol yn barhaus a rheoli risg yn effeithiol.
• Mae’n rhaid i chi allu creu a chyflawni gwaith partneriaeth effeithiol gyda chanlyniadau â ffocws a gallu ymgysylltu, cefnogi, herio a chyflawni newid. Mae’n rhaid i chi allu grymuso eich staff i ddarparu gwasanaethau i'r safon uchaf.
• Byddwch yn ymrwymedig i ddull sy’n seiliedig ar gryfderau mewn gwaith cymdeithasol a byddwch yn annog ac yn datblygu'r dull hwnnw yn eich tîm gan sicrhau sylfaen a strwythur sy'n cefnogi ymarfer.
• Byddwch yn ymrwymedig i annog staff i ymgymryd â hyfforddiant, sesiynau cymorth cyfoedion a goruchwyliaeth a byddwch yn hyrwyddo hyn yn eich tîm.
• Mae eich profiad wedi datblygu eich gallu i fod yn ddigynnwrf ac yn gyfeillgar â’r gallu i ymdopi drwy her. Byddwch yn gallu dangos tystiolaeth o brofiad o weithio mewn amgylchedd dan bwysau ac i’r gofynion perthnasol.
• Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol o fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Swydd dros dro yw hon tan 1 Hydref 2027.
Mae'r swydd hon yn destun gwiriadau manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac mae ganddi ofyniad ar gyfer cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r swydd yn addas i'w rhannu.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig ar radd nad yw’n is na RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn rhoi gwybod am fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Gemma Lewis ar gelewis@caerdydd.gov.uk.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw’n eiddo i chi.
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau