Am Y Gwasanaeth
Mae ein tîm Gwasanaethau Oedolion wrth wraidd darparu cyfleoedd dysgu a datblygu o ansawdd uchel i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r sector gofal cymdeithasol ehangach i hyrwyddo gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y person, ledled Caerdydd. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu medrus, hyderus a thosturiol sy'n diwallu anghenion esblygol ein cymunedau. Drwy Raglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC), rydym yn cefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol mewnol ac allanol i dyfu, ffynnu a darparu gofal eithriadol.
Am Y Swydd
Fel ein Rheolwr Tîm Hyfforddi, byddwch yn rhan o drefniant rhannu swydd, gan arwain y gwaith o gynllunio'n strategol, cyflwyno ac asesu hyfforddiant a datblygiad ar draws y Gwasanaethau Oedolion a'r sector gofal cymdeithasol ehangach gan gynnal perthynas gref â swyddogaethau dysgu a datblygu’r Gwasanaethau Plant. Byddwch yn rheoli tîm ymroddedig a phrofiadol, yn goruchwylio rhaglenni a ariennir gan grantiau, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau cenedlaethol. O gefnogi lleoliadau myfyrwyr i lunio strategaethau gweithlu rhanbarthol, bydd eich gwaith yn effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd gofal ledled Caerdydd a bydd yn chwarae rhan ganolog o ran sicrhau ansawdd a datblygu gwasanaethau.
Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
- Arwain gweithredu'r RhDGGCC
- Rheoli cyllidebau hyfforddiant a cheisiadau am grantiau
- Dylunio a gwerthuso rhaglenni hyfforddiant
- Cefnogi datblygiad proffesiynol myfyrwyr gwaith cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol a'r sector gofal cymdeithasol
- Cynrychioli'r Cyngor mewn fforymau rhanbarthol a chenedlaethol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am arweinydd deinamig gyda:
- Profiad amlwg o ddatblygu'r gweithlu o fewn gofal cymdeithasol
- Sgiliau rheoli prosiectau, arwain a chyfathrebu cryf
- Angerdd dros welliant parhaus a dysgu a datblygiad y gweithlu
- Ymagwedd gydweithredol tuag at weithio mewn partneriaeth
- Rhaid bod ar gael i weithio’n hyblyg, gan gynnwys gyda’r hwyr yn achlysurol
- Mae trwydded yrru ddilys lawn a defnydd o gerbyd yn hanfodol
- Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn Neuadd y Sir ond mae'n cynnwys rhywfaint o weithio gartref a gweithio ystwyth ar draws gwahanol leoliadau
- Mae cymhwyster rheoli cydnabyddedig yn ddymunol a phrofiad mewn ymchwil gofal cymdeithasol neu weithio ar lefel uwch mewn awdurdod lleol.
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Felly Pam Ymuno Â’n Tîm Ni?
- Byddwch yn rhan o dîm arweinyddiaeth blaengar a chefnogol
- Llunio dyfodol hyfforddiant gofal cymdeithasol yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd a'r sector gofal cymdeithasol allanol
- Mynediad at ddatblygiad proffesiynol a datblygiad gyrfa
- Trefniadau gweithio hyblyg ac ystwyth
- Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau oedolion agored i niwed a'u gofalwyr
Yn barod i arwain, ysbrydoli a chael effaith barhaol? Gwnewch gais nawr a helpwch i lunio dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Nina Tonge (029 20 871111) (nina.tonge@cardiff.gov.uk).
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau