Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Rheolwr Trawsnewid Ymarfer - Gwasanaethau Oedolion

Dyddiad cau 30/10/2026

Cyflogwr

Monmouthshire County Council / Cyngor Sir Fynwy

Lleoliad

  • Sir Fynwy
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£51,928.00 - £56,293.00 per year y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Hysbyseb Swydd

Rydym yn edrych am weithiwr proffesiynol egnïol a phrofiadol i ddod yn Rheolwr Trawsnewid Ymarfer yn gweithio ar draws Gwasanaethau Oedolion. Byddwch yn datblygu ac yn sefydlu fframweithiau cadarn, cydlynu arweinwyr ymarfer aml-ddisgyblaeth a sefydlu arfer gorau. Gyda ffocws ar welliant parhaus a chydweithio, byddwch yn cefnogi timau i ddarparu gofal ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddwch yn sefydlu ac arwain fforymau ymarfer, datblygu polisi, mentora staff a phrosiectau trawsnewid gan sicrhau fod gwasanaethau yn cyrraedd safonau deddfwriaethol a phroffesiynol. Os ydych yn angerddol am wella canlyniadau a llunio rhagoriaeth gwasanaeth, ymunwch â ni a gwneud effaith go iawn

Post Manylion

CYFLOG – GWYBODAETH BWYSIG: Byddai’r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.

Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol):


Lleoliad: County Hall (Rhadyr - Usk), NP15 1GA, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.

Yn ystod y Tymor yn unig – Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol): 


GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD:
Bydd apwyntiad i’r rôl hon wedi ei eithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Adults Barred List Check

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.