Rhif swydd POSN004829 - Rheolwr Tîm Cynorthwyol
Rydym yn dymuno recriwtio Dirprwy Reolwr Tîm llawn amser i ymuno â'n Hyb Diogelu yn barhaol.
Byddwch yn cyflawni rôl fentora i gydweithwyr gwaith cymdeithasol drwy gymorth gydag achosion cymhleth ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol. Byddwch yn fedrus wrth ddatblygu a chynnal cysylltiadau amlasiantaethol effeithiol gydag ystod o grwpiau proffesiynol. Bydd y swydd yn yr Hyb Diogelu yn cynnwys cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau a dyraniadau dyddiol. Byddwch yn gwneud asesiadau o ansawdd uchel ac yn helpu i lunio cynlluniau gofal ac ymyriadau priodol ar gyfer teuluoedd. Bydd hefyd yn ofynnol i chi fentora a helpu i hyfforddi a datblygu Gweithwyr Cymdeithasol gyda chynnal asesiadau cymhleth ar gyfer y llys ac fel rhan o brosesau'r AGG. Byddwch yn llawn cymhelliant, yn canolbwyntio ar weithredu arferion ac ymyriadau amserol ac effeithiol o ansawdd uchel i blant sydd "mewn perygl" neu "angen gofal a chymorth" yn y gymuned. Byddwch yn rhan o amgylchedd hynod gefnogol ac yn gallu manteisio'n dda ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae Casnewydd yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo, yn ddinas fach o ran ei daearyddiaeth, gyda phoblogaeth amrywiol y mae 35,000 ohonynt yn blant a phobl ifanc. Mae Casnewydd ar goridor yr M4, rhwng Bryste a Chaerdydd, gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog i fannau ymhellach i ffwrdd. Cryfderau gweithio a byw yng Nghasnewydd yw ei bod yn ddinas sy'n tyfu ac sy'n datblygu'n gyflym tra'n parhau i roi cyfle i gael mynediad at dai fforddiadwy, ysgolion da ac adnoddau cymunedol rhagorol. Rydym yn falch o gael gweithlu sefydlog a staff ymroddedig y mae pob un ohonynt yn weithwyr parhaol mewn amgylchedd dysgu cefnogol a chadarnhaol. Ymhlith y buddion unigryw o weithio gyda ni, mae’r cyfle i fod yn rhan o wasanaethau Atal a HYB, y tîm Mentora ac Ymgynghori penodedig, ein trefniant partneriaeth gyda Barnardo's i ddarparu ymyriadau ar y cyd i deuluoedd yn ogystal â llwyth achosion cymharol isel a sefydlog, goruchwyliaeth reolaidd i unigolion a grwpiau a'r cyfleoedd rhagorol o ddatblygu gyrfa a chael hyfforddiant rhagorol.
Yn ogystal â gwyliau blynyddol hael, cynllun pensiwn da, cyflog cymharol neu uwch nag awdurdodau cyfagos mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig buddion gwych gan gynnwys:
- Lwfansau cerbydau; Beiciau di-dreth ar gyfer gwaith
- Cydbwysedd bywyd gwaith - cyflogaeth hyblyg;
- Datblygu Gyrfa
- Iechyd a hamdden (gyda gostyngiadau gydag amryw sefydliadau i'ch galluogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch ffordd o fyw)
- Gwasanaeth Cymorth i Weithwyr (Viv up)
- Swyddfeydd canol tref gyda chysylltiadau trafnidiaeth da
Ar gyfer y rôl hon byddwch yn ymarferydd sydd â chymhwyster gwaith cymdeithasol proffesiynol, Diploma Gwaith Cymdeithasol, CQSW, CSS neu gymhwyster cyfatebol ac wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o CPIG neu gorff a gydnabyddir yn yr un modd)
Ymgeisio
Gallwch argraffu ffurflen gais, disgrifiad swydd a’r gofynion swydd drwy’r dolenni isod, neu fel arall maent ar gael dros y ffôn ar 01633 656656 neu e-bost ccc@newport.gov.uk gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod a lle y gwnaethoch chi weld y swydd yn cael ei hysbysebu.
Mae ceisiadau bellach yn cael eu cyflwyno ar-lein drwy ein gwefan www.newport.gov.uk/jobs.
Dyddiad Cau – Friday 13th November 2026
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd