Rhif swydd. POSN005067 - Rheolwr Tîm Cynorthwyol - Tîm Llwybrau Un
18.5 awr yr wythnos (prynhawn dydd Mercher /dydd Iau a dydd Gwener)
Mae Tîm Llwybrau Un yn chwilio am Reolwr Tîm Cynorthwyol ar sail parhaol, rhan-amser.
Byddai'r swydd yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n barod i ymgymryd â'u rôl Rheolwr Tîm Cynorthwyol gyntaf, neu i rywun sydd eisoes yn Rheolwr Tîm Cynorthwyol, ond sy'n chwilio am gyfle i ennill profiad gyda'r Gwasanaeth Llwybrau.
Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal a rhwng 0 a 18 oed. Plant sydd ar Orchymyn Gofal a phobl ifanc (16/17 oed) sy'n profi digartrefedd.
Mae gan y timau gyfrifoldeb statudol o sicrhau bod anghenion plant sy'n derbyn gofal yn cael eu diwallu a'u bod yn cael eu cefnogi yn unol â'r strategaeth rhianta corfforaethol.
Mae Gwasanaeth Llwybrau yn cynnwys pedwar tîm a byddwch yn ymuno â Thîm Llwybrau Un. Mae'r pedwar tîm yn cynnwys rheolwyr tîm, rheolwyr tîm cynorthwyol, gweithwyr cymdeithasol, cynghorwyr pobl ifanc a chynorthwywyr gwaith cymdeithasol. Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc hyd at 25 oed a'u teuluoedd. Mae gennym weithlu sefydlog, mae goruchwyliaeth yn rheolaidd ac mae'r cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa a hyfforddiant yn rhagorol. Mae ein llwythi achosion yn gymharol isel ac yn fewnol mae gennym fynediad at dîm Mentora ac Ymgynghori pwrpasol, a mynediad at gymorth drwy ein gwasanaeth cymorth i deuluoedd, a Thimau MyST. Mae yna hefyd nifer o asiantaethau sy'n gweithredu'n lleol sy'n gweithio gyda'r bobl ifanc a'u teuluoedd i wella eu bywydau.
Mae'r tîm yn gadarn iawn ac yn hynod gefnogol i'w gilydd. O'r herwydd mae arnom angen pobl sy'n gallu gweithio gyda newid, sy'n gallu cynnig arweinyddiaeth a chefnogaeth i'r tîm cyfan, ac sydd â'r arbenigedd i gefnogi rheolwr y tîm a'r broses ddyletswydd. Yn ogystal, bydd disgwyl i chi reoli llwyth achosion bach a goruchwylio staff heb gymhwyso o fewn y tîm. Mae disgwyl hefyd y byddwch yn arwain ar fentrau ehangach, gan gynnwys cymryd rhan mewn grwpiau prosiect a fforymau, i lywio arferion gwell o fewn y tîm. Felly, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos dealltwriaeth dda o'r materion sy'n wynebu Plant sy'n Derbyn Gofal.
Bydd gennych gymhwyster gwaith cymdeithasol (Gradd, DipSW, CQSW) gyda phrofiad ôl-gymhwyso sylweddol a bydd gennych sgiliau rhagorol mewn amddiffyn ac asesu plant. Bydd angen i chi allu dangos sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar a'r gallu i feithrin cysylltiadau cadarnhaol yn eich gwaith gyda phlant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd angen gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (CRB gynt).
Dyddiad Cau: 24/06/2026
Dyddiad Cyfweld: i'w gadarnhau.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd