Am Y Gwasanaeth
O 1 Ebrill 2026, mae’r rôl yn denu tâl atodol y farchnad o £5,000 (cyfwerth â llawn amser). Caiff y tâl ei adolygu bob 12 mis.
Mae Caerdydd yn ddinas ffyniannus sy’n ymfalchïo am ei bod hi’n brifddinas ynghyd â’r ddinas fwyaf yng Nghymru. Mae gan Gaerdydd enw da yn rhyngwladol, cymeriad arbennig gydag ansawdd bywyd rhagorol am ei hamrywiaeth eang o atyniadau diwylliannol, campau a digwyddiadau i’r teulu. Yn ddiweddar, enwebwyd Caerdydd y brifddinas ‘drydedd orau’ yn Ewrop i fyw ynddi mewn arolwg gan yr Undeb Ewropeaidd ac mae’n amlwg pam. Ac i ychwanegu at hyn, mae gennym ni fwy o fannau gwyrdd nag unrhyw ddinas arall ym Mhrydain!
Byddwch yn gweithio i un o gyflogwyr mwyaf Cymru, yn ymuno â thîm arweinyddiaeth profiadol sy’n canolbwyntio ar sicrhau diben clir, ymagwedd ‘gallaf wneud hyn’ a systemau ac arfer busnes sy’n gwella cyflawniad gweithredol.
Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a grymuso ein gweithlu rheng flaen. Rydym ni’n dîm llawn angerdd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol, yn adeiladu ar gryfderau pobl a datblygu perthnasoedd effeithiol a phwrpasol. Gwneud y peth iawn yw heb os y cam gweithredu mwyaf cost-effeithiol ac effeithlon.
Am Y Swydd
Fel Rheolwr Tîm ar un o’n pedwar tîm derbyn ac asesu prysur, byddwch yn gweithio gyda thîm llawn o gydweithwyr ymroddgar. Mae’r tîm Derbyn ac Asesu yn derbyn atgyfeiriadau gan ein tîm MASH wedi iddynt gael eu sgrinio a’u nodi’n addas ar gyfer asesiad statudol. Mae’r tîm yn gweithio ledled Caerdydd ar sail rota dyletswydd, ac maen nhw’n gweithio o Neuadd y Sir, gyda gweithio ystwyth ar gael i staff. Mae’r tîm yn gweithio gyda phlant 0 - 18 oed a’u teuluoedd.
Byddwch chi a’ch tîm yn cwblhau pob agwedd ar waith gweithiwr cymdeithasol ac asesu, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, asesiadau Adran 47, asesiadau lles, ymchwiliadau rhan 4.
Mae’r timau derbyn yn gwneud yr asesu ac yn darparu cymorth yn syth, pan fo angen, i blant a’u teuluoedd. Weithiau, dyma’r unig ymyriad sydd ei angen. Fodd bynnag, os oes angen ymyriad tymor hirach, bydd cynllun y plentyn yn cael ei drosglwyddo i dîm Lleol ar gyfer yr ymyriadau hirach, yn ôl yr angen.
Mae cyfle i asesu a rhoi cymorth i blant digwmni a phlant a theuluoedd na allan nhw ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus.
Rydym yn gweithio’n galed gyda phlant y bernir eu bod ar ymylon gofal, i nodi cymorth priodol ac i sicrhau eu bod yn gallu aros yn ddiogel yn eu teuluoedd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Fel Rheolwr Tîm, bydd angen i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol profiadol, gyda phrofiad o oruchwylio a rheoli, neu’n dymuno camu i rôl reoli.
Byddwch yn gweithredu o fewn model seiliedig ar gryfderau ac yn sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog i bob ymyriad ac asesiad.
Mae gwaith uniongyrchol gyda phlant yn cael ei werthfawrogi, a hybir agwedd gyfannol sydd â’r plentyn yn ganolog iddi.
Bydd angen eich bod yn gallu gyrru gan fod ymweliadau ag ysgolion ac ymweliadau ar y cyd â’r heddlu yn digwydd yn aml. Rydyn ni’n asesu sawl agwedd ar gamdriniaeth, gan gynnwys niwed corfforol, niwed emosiynol, rhywioldeb ac esgeulustod ac yn cynnwys achosion AOCB a cham-fanteisio.
Bydd angen bod gennych brofiad o weithio yn y llysoedd.
Mae Derbyn ac Asesu yn amgylchedd heriol gyda galwadau lluosog yn aml yn cystadlu am sylw, bydd angen i chi fod yn hyblyg, yn bwyllog ac yn wrthrychol ac yn gallu pwyso a mesur y galwadau sydd arnoch yn effeithiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
O 1 Ebrill 2026, mae’r rôl yn denu tâl atodol y farchnad o £5,000 (cyfwerth â llawn amser). Caiff y tâl ei adolygu bob 12 mis.
Os hoffech drefnu sgwrs anffurfiol cysylltwch â ni ar recriwtiafi@caerdydd.gov.uk
Mae’r swyddi yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swyddi hyn yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau