37 wr yr wythnos
Rydym ar daith uchelgeisiol i gyflawni dull gwirioneddol gydgynhyrchiol o weithio gyda phobl a'u gofalwyr. Credwn fod gan bawb gryfderau a'n cenhadaeth yw cynorthwyo pobl i gynnal eu hannibyniaeth er mwyn iddynt allu byw eu bywydau yn dda, credwn fod hyn yn dechrau ar y pwynt cyswllt cyntaf â'r adran. Mae ein “Model Ymarfer sy'n Seiliedig ar Gryfderau” yn cefnogi dull amlddisgyblaethol o alluogi a chynorthwyo pobl sy'n byw gyda phroblemau a achosir gan anabledd, eiddilwch a heneiddio.
Byddwch yn rhan o dîm rheoli yn y Ganolfan Ymyrryd ac Atal yn Gynnar, sy'n cynnwys y gwaith cymdeithasol tymor byr a'r ymateb drws blaen mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion. A chithau'n arweinydd gwaith cymdeithasol proffesiynol, byddwch yn rhoi cyngor gwaith cymdeithasol arbenigol i'r Rheolwyr Tîm Adnoddau Cymunedol Integredig a'r tîm integredig, gyda rheolaeth a chyfrifoldeb gweithredol o ddydd i ddydd ar gyfer ymarfer proffesiynol gwaith cymdeithasol. Gan gefnogi dull amlddisgyblaethol, bydd y tîm yn canolbwyntio ar oedolion sydd ag anghenion cymhleth amlweddog a dirywiad gwybyddol. Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau i unigolion, gan sicrhau'r potensial mwyaf posibl a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar ddewis a rheolaeth.
Fel aelod o'r tîm rheoli yn y Tîm Adnodau Cymunedol, byddwch yn rhannu â staff uwch eraill y cyfrifoldeb am weithredu'r gwasanaeth yn effeithiol a chymryd rhan yn ei ddatblygiad parhaus, wrth i'r gwasanaeth gynorthwyo'r gwaith o weithredu Rhyddhau i Adfer yna Asesu.
Gradd gydnabyddedig mewn gwaith cymdeithasol a chofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru yn hanfodol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 8 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 21 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person