Rydym yn chwilio am unigolyn â sgiliau arwain cryf i arwain a chymell staff. Bydd deiliad y swydd yn canolbwyntio ar ddatrysiadau ac yn meddu ar brofiad o weithio mewn gwasanaeth maethu.
Fel Rheolwr Tîm, byddwch yn rheoli, arwain a hyrwyddo'r Gwasanaeth Maethu, gan sicrhau datblygiad Gofalwyr Maeth mewnol, Llety â Chymorth a'r ddarpariaeth Pan Fydda i'n Barod drwy recriwtio wedi'i dargedu a ffocysu ar weithgareddau cadw staff. Byddwch yn rheoli gweithgareddau gweithredol y Gwasanaeth, gan ymgorffori'r arferion gorau drwyddi draw. Byddwch yn hyrwyddo safonau proffesiynol trwy ddatblygu timau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n deall eu cyfraniad i'r Gwasanaeth a llwyddiant ehangach strategaeth Model Gydol Oes a Llesiant.
Byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth a datblygu amrywiaeth o bolisïau a gweithdrefnau i alluogi'r tîm i ddarparu gwasanaeth o safon i'n gofalwyr. Bydd gennych brofiad o reoli newid gyda'r gallu i herio perfformiad sy'n brin o'r nod.
Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol, gyda phrofiad ar ôl cymhwyso o weithio fel gweithiwr cymdeithasol ym maes Gofal Cymdeithasol i Blant ac sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi rhagorol ar y cychwyn ac yn barhaus, gan gynnwys cefnogaeth i chi gyflawni cymwysterau pellach. Rydym hefyd yn frwd dros sicrhau bod ein pobl yn gallu cydbwyso eu gwaith a'u hymrwymiadau personol. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol yn ogystal â nifer o fuddion gwyliau a chymorth eraill:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn swyddfa.
- Amser hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar angen y gwasanaeth
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ei weithlu er mwyn adlewyrchu'n fwy cywir y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob grup lleiafrifol ac unigolion sy'n uniaethu ag un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Audrey Somerton Edwards at
audrey.somertonedwards@ceredigion.gov.uk Cynhelir cyfweliadau ar: I'w gadarnhau Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy