Rheolwr Tîm - Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Oedolion)
Cyflogwr
Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council
Lleoliad
-
Ynys Môn
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £47,181 - £50,269 per year y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Byddwch yn gyfrifol am arwain Rheolwyr Cofrestredig mewn sawl lleoliad yn ein Gwasanaethau Preswyl i Oedolion, ac am sicrhau bod y gofal y maent yn gyfrifol am ei ddarparu o ansawdd uchel.
Byddwch yn darparu trosolwg cadarn ynghylch cydymffurfiaeth gweithredol a safon y gofal a ddarperir. Byddwch yn ysgogi'ch timau i gyflawni gweledigaeth y gwasanaeth, cynnig cymorth, arweiniad a chyfarwyddyd a grymuso staff i ddarparu gofal a chymorth o'r radd flaenaf i'r bobl yr ydym ni'n eu cefnogi. Byddwch hefyd yn sicrhau ein bod ni'n cynnal safonjau uchel o ran cydymffurfiaeth a deilliannau.
Byddwch yn gyfrifol am reoli'r gwasanaeth o ddydd i ddydd ac am sicrhau bod gwasanaethau rheoleiddiedig yn gweithredu'n unol a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Cyffredinol: Cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a'r dyletswyddau a chyfrifoldebau diogelu y mae'r polisi hwnnw'n ei roi ar bob gweithiwr, gan gydweddu a gwerthoedd craidd yr Awdurdod sy'n cynnwys cefnogi plant, oedolion a all fod mewn perygl a'u teuluoedd er mwyn eu cadw'n
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein