Lleoliad gwaith: Coed Pellla / Gweithio Hybrid
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer swydd barhaol fel Rheolwr Tîm o fewn y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli dau dîm gydag ystod o broffesiynau.
Mae’r ddau dîm yn cynnwys y Tîm Pobl Ddiamddiffyn a’r Tîm Ymgynghorydd Personol. Mae’r Tîm Pobl Ddiamddiffyn yn wahanol iawn i unrhyw dîm arall mewn awdurdodau cyfagos - gan ganolbwyntio ar weithio’n greadigol gyda’r rheiny sy’n disgyn drwy’r bylchau mewn gwasanaethau prif ffrwd heb gyllideb a neilltuwyd.
Mae’r Tîm yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, dau weithiwr ymyrraeth a gweithiwr cefnogi. Ochr yn ochr â rheoli achosion, mae’r tîm yn datblygu’n barhaus, gan ganolbwyntio ar adeiladu cysylltiadau cymunedol ac ehangu’r adnoddau therapiwtig o fewn y tîm.
Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorydd Personol yn wasanaeth Gadael Gofal mewnol i Bobl Ifanc â Phrofiad o fod mewn Gofal gyda 6 Ymgynghorydd Personol yn y Tîm.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd:
- Gefnogi’r gwaith o reoli’r timau o ddydd i ddydd yn cynnwys goruchwylio staff ar draws y ddau dîm.
- Sgrinio atgyfeiriadau a rheoli’r System WCCIS mewn perthynas â hyn.
- Rheoli’r gwaith o wneud penderfyniadau cymhleth.
- Gwneud a monitro penderfyniadau ariannol.
- Cadeirio cyfarfodydd aml-asiantaethol.
- Cyfrannu at ddatblygu’r tîm a’r gwasanaeth.
- Rheoli’r gwasanaeth rhandir.
- Cymryd rhan mewn cyfrifoldebau rheoli ehangach, yn cynnwys cymryd rhan yn y rota diogelu oedolion a rota cyfarfodydd rheoli.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Siaradwch â ni:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael gwybod rhagor am y swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Paula Shoosmith, Rheolwr Tim,
E-bost: paula.shoosmith@conwy.gov.uk Rhif Cyswllt: 01492 576468
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.