Lleoliad gwaith: Bron Y Nant
‘A hoffech chi weithio er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau oedolion diamddiffyn yn yr agweddau pwysicaf ar eu bywydau?
Rydym yn chwilio am Reolwr Tîm Seibiant Preswyl blaengar, angerddol a gonest
Mae ein gwasanaeth seibiant i oedolion ag anableddau’n cynnig gyrfaoedd a phrofiadau heriol, gwerth chweil, sy’n unigryw oherwydd ein huchelgais llesiant, sef galluogi unigolion ag anableddau i fwynhau’r ansawdd bywyd gorau.
Rydym yn awyddus i ganfod pobl sy’n rhannu’r uchelgais hon a rhannu ein ffordd ni o weithio - bod yn feiddgar, yn gynnes ac yn onest ym mhopeth a wnawn.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous, llawn mentergarwch ym maes gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghonwy gan ein bod yn agor Canolfan Gwasanaethau Seibiant i Bobl ag Anableddau a Chaffi, Siop a Chyfleusterau Cefnogi ym Mron y Nant, Bae Colwyn.
Bydd y Cyfleuster Seibiant i Bobl ag Anableddau yn darparu pum rhandy wedi'u dodrefnu’n llawn, gofod cymunedol a llety i staff cefnogi ar gyfer pobl y mae ganddynt anghenion cefnogi o ran anableddau. Bydd yr uned dydd ar gyfer Gofal Cymhleth yn cynnig gwasanaeth seibiant dyddiol i rai sydd ag anghenion cymhleth a bydd caffi a siop ar y safle’n cynnig cyfleoedd gwaith ychwanegol i bobl ag Anableddau.
Fel rheolwr tîm, byddwch chi’n gyfrifol am arwain gwaith rheoli a datblygu tîm yng nghyfleuster y Gwasanaeth Seibiant i Bobl ag Anableddau, ar ran y Rheolwr Adain a’r Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Anabledd Integredig.
Beth mae’r swydd yn ei olygu?
Bydd disgwyl i chi greu ethos gwasanaeth sy’n ystyried bywyd cyfan unigolyn, yn cynnwys anghenion corfforol, meddyliol, diwylliannol, emosiynol ac ysbrydol drwy annog a galluogi staff ac unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau i fod yn rhan o’r broses i gyd-gynhyrchu sut mae’r gwasanaeth yn cael ei weithredu.
Bydd disgwyl i chi:
• Gymryd cyfrifoldeb dros ddarparu’r gwasanaeth yn gyffredinol wrth sicrhau bod y cyfleuster seibiant yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau RISCA 2016.
• Gweithio gyda’r Rheolwr Adain i weithredu cyfleoedd ar gyfer gwelliannau gwasanaeth sy’n darparu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd wrth ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys casglu adborth gan rai sy’n defnyddio’r gwasanaeth, eu teulu a’u ffrindiau a budd-ddeiliaid perthnasol eraill.
• Ceisio’n gyson i lunio gwasanaethau o amgylch anghenion a dymuniadau pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, dysgu o brofiad i sicrhau darpariaeth gwasanaeth o safon.
• Hyrwyddo safon uchel iawn o ymddygiad personol a phroffesiynol wrth gefnogi diwylliant ar draws y gwasanaeth sy’n wirioneddol gynnes, dilys, llawn ymddiriedaeth, gonest, dibynadwy, cyson a gofalgar.
• Darparu goruchwyliaeth ac arweiniad yn y gweithle i uwch weithwyr cefnogi a sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel ac mewn modd sy’n bodloni’r safonau sydd eu hangen gan Weithiwr Gofal Cymdeithasol o fewn Cod Ymddygiad Gofal Cymdeithasol Cymru.
• Sicrhau bod cynnal y gwasanaeth o ddydd i ddydd yn cael ei gyflawni mewn modd sy’n arwain at welliant parhaus yn y gwasanaeth fel bod ‘pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni’r cyfan y gallant; maent yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir; maent yn ddiogel ac yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth.’
• Meithrin a datblygu prosesau goruchwylio ac adolygu sy’n atgyfnerthu’n gyson ethos gwella parhaus gan yr holl staff sy’n gweithio yn y cyfleuster seibiant
Yr hyn rydym yn chwilio amdano gennych chi:
• QCF Lefel 5 mewn rheoli neu gymhwyster neu NVQ cyfwerth mewn rheoli.
• Profiad a gwybodaeth o weithio gyda phobl anabl, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion iechyd cymhleth, diagnosis deuol ac ymddygiad heriol.
• Gwybodaeth am ddulliau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol, Cefnogaeth Weithredol, Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a gallu eu cynnwys yn arferion y tîm.
• Gwybodaeth dda am Iechyd a Diogelwch a’r gallu i gwblhau cymhwyster y Sefydliad Iechyd a Diogelwch.
• Profiad o arwain a goruchwylio staff, mewn perthynas ag ymddygiad proffesiynol yn y gweithle, perfformiad a chreu a chynnal diwylliant diogel, llawn ffydd ac ymgysylltiol yn y gweithle
• Gallu grymuso ac ymgysylltu ag unigolion a’r tîm gan ddangos bod eu cyfraniadau a’u syniadau’n werthfawr ac yn bwysig er mwyn sicrhau canlyniadau a gwelliannau parhaus i’r gwasanaeth.
• Gallu rheoli sefyllfaoedd heriol a chefnogi’r tîm o staff i archwilio strategaethau arloesol wrth fynd i’r afael ag ymddygiad heriol
• Datblygu a chynnal gwaith partneriaeth amlasiantaethol i ddiwallu angen unigol
• Profiad o weithio mewn modd wedi’i gynllunio a’i baratoi gyda phobl a delio ag argyfwng i ddarparu cefnogaeth a chymorth cychwynnol
• Ymddygiad arweiniol model rôl sy’n hyrwyddo arferion anormesol ac nad ydynt yn wahaniaethol
• Sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu o fewn y gyllideb a ddyrannwyd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Sonia Booth, Section Manager
(sonia.booth@conwy.gov.uk / 01492 577604)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.