Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Dyma gyfle gwych i ymuno ag Uned y Dirprwy fel Rheolwr y Dirprwy dros dro am gyfnod penodol, gyda’r bwriad o adolygu hynny a’i gwneud yn swydd barhaol.
Mae’r swydd reoli hon yn rhan hanfodol o’r broses o ddarparu gwasanaeth i gleientiaid nad ydynt yn gallu rheoli eu materion ariannol eu hunain, gan weithio tuag at amcanion cyffredinol Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac o fewn canllawiau Arfer Gorau y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Byddwch yn rheoli tîm sy’n gweithredu dan orchmynion Llys Gwarchod i sicrhau bod cleientiaid yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, a bod cyfrifon addas yn cael eu gweithredu a lefelau cynilo yn cael eu monitro’n effeithiol. Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys gwneud penderfyniadau ar y cyd ag eraill ac ar eich pen eich hun sy’n effeithio ar safonau byw unigolion.
Bydd gennych chi radd berthnasol neu ddisgyblaeth gyfatebol, y gallu i weithio o fewn canllawiau ariannol a gweithdrefnau archwilio, profiad o hawlio budd-daliadau ar ran eraill ac o gydgysylltu gyda chredydwyr, dyledwyr ac asiantaethau allanol eraill. Hefyd, mae’r gallu i ddirnad newidiadau deddfwriaethol a gweithredu’r addasiadau angenrheidiol i arferion gweithio, gan gynnwys darparu hyfforddiant ar gyfer aelodau eraill o staff, yn hanfodol.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Debbie Howorth, Rheolwr y Dirprwy
( debbie.howorth@conwy.gov.uk / 01492 575683 )
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.