Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 912
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Amrywiol, Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd L
Cyflog: £49,764 - £53,829
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £25.79 - £27.90
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i blant a theuluoedd. Mae ein Tîm Mabwysiadu yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod plant yn dod o hyd i gartrefi cariadus a chefnogol. Rydym yn chwilio am Reolwr Mabwysiadu brwdfrydig a phrofiadol i arwain ein tîm a chael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a theuluoedd.
Mae hwn yn gyfle i ddefnyddio eich gwybodaeth, creadigrwydd a sgiliau i adeiladu ar ein hanes o ddarparu gwasanaethau mabwysiadu o ansawdd uchel yn y rhanbarth. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cymwysedig sydd â phrofiad ym maes mabwysiadu a rheoli i oruchwylio gweithrediad dyddiol y gwasanaeth mabwysiadu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, sy'n rhan o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae'r swydd wedi'i lleoli yng Nghaerfyrddin ond bydd trefniadau gweithio o bell, a gyflwynwyd oherwydd y cyfyngiadau symud, yn parhau i ryw raddau yn y dyfodol.
Prif Ddyletswyddau:
- Arwain a rheoli'r Tîm Mabwysiadu, gan sicrhau safonau uchel o ran ymarfer a darparu gwasanaethau.
- Goruchwylio'r gwaith o recriwtio, asesu a chymeradwyo darpar fabwysiadwyr.
- Sicrhau bod yr holl brosesau mabwysiadu yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol.
- Cefnogi a goruchwylio aelodau'r tîm, gan hyrwyddo datblygiad proffesiynol ac arferion gorau.
- Cydweithio ag asiantaethau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau'r canlyniadau gorau i blant.
- Rheoli cyllidebau ac adnoddau'n effeithiol i ddarparu gwasanaethau effeithlon.
- Monitro a gwerthuso perfformiad y Tîm Mabwysiadu, gan roi gwelliannau ar waith yn ôl yr angen.
- Cymwysterau a Phrofiad:
- Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu faes perthnasol.
- Wedi cofrestru â'r corff proffesiynol perthnasol.
- Profiad helaeth o wasanaethau mabwysiadu, gan gynnwys rolau rheoli neu oruchwylio.
- Gwybodaeth gadarn am weithdrefnau, polisïau a deddfwriaeth fabwysiadu.
- Sgiliau rhagorol o ran arwain, cyfathrebu ac ymwneud ag eraill.
- Y gallu i gydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid.
- Ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Robert Jenkins, rdjenkins@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 012573 JP bilingual.pdf - 195KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 12/01/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.