37 awr yr wythnos
Graddfa Soulbury A, Pwyntiau 2 - 7 (Ynghyd â 3 Phwynt SPA)
Yn dilyn arolygiad llwyddiannus gan Estyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio cyflogi Seicolegydd Addysg medrus a brwdfrydig i'n Gwasanaeth Seicoleg Addysg sefydledig, cefnogol ac uchel ei barch. Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth ymgynghori i ysgolion ac yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr y Grŵp Cynhwysiant a gwasanaethau'r awdurdod lleol i nodi anghenion a chynorthwyo llesiant emosiynol plant a phobl ifanc agored i niwed ar draws y fwrdeistref. Rydym yn gwerthfawrogi cydweithio ac mae trefniadau gweithio amlddisgyblaethol sefydledig.
Mae hon yn adeg gyffrous ar gyfer newid yn yr awdurdod lleol a bydd cyfleoedd i weithredu'n strategol, i ddatblygu diddordebau arbenigol, ac i ymgymryd â hyfforddiant. Bydd goruchwyliaeth, cymorth, oriau gweithio hyblyg a datblygiad proffesiynol parhaus ar gael yn rheolaidd. Rydym yn annog cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae hon yn swydd amser llawn ond byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyr sy'n ceisio cyflogaeth rhan-amser. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan Seicolegwyr Addysg dan Hyfforddiant a fydd yn cwblhau eu hyfforddiant y flwyddyn academaidd hon neu'r flwyddyn academaidd nesaf ac a fydd yn cymhwyso ar gyfer cyflogaeth ar 1 Medi 2026 neu 2027.
Mae angen seicolegydd cadarnhaol arnom sy'n gyfathrebwr da gyda gweledigaeth gref ar gyfer datblygu darpariaeth gwasanaeth o ansawdd uchel ac sy'n wybodus am ymarfer presennol ym maes seicolegydd addysg ac anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r swydd yn gyfle cyffrous i fewnbynnu i dîm ymrwymedig a thalentog o Seicolegwyr Addysg.
Rhaid i bob Seicolegydd Addysg sy'n ymarfer yn y DU fod wedi cofrestru gyda'r HCPC.
I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â'r Prif Seicolegydd Addysg Kathryn Morgan.
E-bost: kathryn.morgan@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 02 Medi 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 17 Medi 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 30 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person