SEICOLEGYDD ADDYSG (PARENTS PLUS RHIANTA CAERDYDD)
Cyflogwr
Cardiff Council/Cyngor Caerdydd
Lleoliad
-
Caerdydd
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £EDPSY A - £44,875 - £65,423 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Am Y Gwasanaeth
Rydym yn croesawu ceisiadau gan Seicolegwyr Addysgol sydd newydd gymhwyso.
Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Brif Seicolegydd Addysg. Rydym yn falch bod gennym 8 seicolegydd addysg arall fel rhan o'r gwasanaethau hyn ac rydym wrth ein boddau o fod yn chwilio am Seicolegydd Addysg brwdfrydig i gyflenwi yn ystod absenoldeb mamolaeth.
Parents Plus (0-5) a Parents First (5-18) yw’r gwasanaethau rhianta dan arweiniad seicoleg o fewn Rhianta Caerdydd. Bwriedir i ddeiliad y swydd bresennol fod yn rhan o’r tîm Parents Plus, gan weithio'n benodol gyda rhieni sy'n feichiog neu rieni a gofalwyr sydd â baban neu blentyn yn y blynyddoedd cynnar.
Caiff Tîm Parents Plus ei arwain gan Uwch Seicolegydd Addysg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo'r Uwch Seicolegydd Addysg wrth fewnbynnu seicoleg i'r tîm a'r gweithlu ehangach.
Mae’r Tîm Parents Plus yn cynnwys Seicolegwyr Addysg eraill ac ymarferwyr rhianta’r blynyddoedd cynnar medrus iawn, sy'n gwneud gwaith pwrpasol penodol ac arbenigol gyda rhieni, gofalwyr, babanod a phlant ifanc yn y cartref. Mae'r ymyriadau hyn yn cael eu teilwra, ac yn cael eu cydlunio a'u goruchwylio'n glinigol gan y Seicolegwyr Addysg. Mae'r seicolegwyr yn y tîm hefyd yn darparu ymgynghoriad a hyfforddiant i'r tîm ac i'r sefydliad ehangach.
Mae gennym swyddfeydd ar draws Caerdydd, ac mae gennym hefyd offer ar gyfer gweithio o bell.
Gallwch ddysgu mwy am elfennau Cymorth Cynnar trwy fynd i’r wefan www.teuluoeddcaerdydd.co.uk.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta ar-lein:
Rhianta Caerdydd 0-18 – Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk)
Rydym hefyd yn postio ar ein tudalennau Twitter a Facebook – chwiliwch am Cardiff Parenting – Rhianta Caerdydd i gael gwybod mwy.
Ar ôl gweithio gyda ni, mae rhieni wedi dweud:
"Rydyn ni'n cysylltu ac yn cael hwyl gyda'n gilydd ac mae ein bond yn gryfach nag erioed.
Am Y Swydd
Mae gan y Seicolegydd Addysg yn y Gwasanaeth Parents Plus rôl wrth gymhwyso seicoleg i lywio darnau o waith personol gyda rhieni a gofalwyr a'u babanod a'u plant bach ledled Caerdydd.
Mae'r Seicolegydd Addysg yn gwneud arsylwad ac asesiad cychwynnol o gryfderau, amgylchiadau a meysydd newid posibl y rhiant a'r baban neu plentyn, yn ystod ymweliad cychwynnol â'r cartref neu mewn lleoliad cymuned. Mae targedau personol ar gyfer newid yn cael eu cydlunio â'r rhiant yn ystod y sesiwn hon ac mae'r darn o waith wedi’i deilwra yn cael ei lunio gan y Seicolegydd Addysg a’r Ymarferydd Dan Arweiniad Seicoleg. Mae’r ymarferydd yn cyflawni'r ymyrriad yng nghartref y teulu gyda goruchwyliaeth reolaidd gan y Seicolegydd Addysg.
Prif rôl y Seicolegydd Addysg fydd:
- Hyrwyddo hyder, ymdrechion a gallu'r rhieni a’r gofalwyr rydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi rhyngweithio a pherthnasoedd rhwng rhieni a babanod /phlant a diwallu anghenion datblygiadol unigryw eu babanod/ plant.
- Cyfrannu at wella canlyniadau babanod a phlant trwy hyrwyddo eu twf, eu datblygiad, eu dysgu a’u lles.
- Asesu, cydlunio a goruchwylio'r ymyriadau rhiant-blentyn ar sail seicoleg a ddarperir gan yr ymarferwyr o fewn y tîm.
- Cynnal darnau unigol o waith achos, gan ddefnyddio dulliau sydd wedi cael eu profi i wella rhyngweithio a pherthnasoedd rhwng rhieni a phlant (e.e. Canllawiau Rhyngweithio Fideo).
- Cymryd rhan mewn ymgynghoriad a hyfforddiant i hyrwyddo mewnbwn seicolegol o fewn y tîm a‘r gwasanaethau Cymorth Cynnar ehangach.
- Gwneud a dosbarthu gwaith ymchwil seicolegol perthnasol.
Byddwch yn cael ei cefnogi gyda chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus, a byddwch yn cael ffôn, cyfrifiadur personol a'r adnoddau a'r cymorth bydd eu hangen arnoch i deimlo'n hyderus ac yn ddiogel yn eich rôl.
Mae nifer ein staff sy’n aros gyda ni yn uchel ac mae ein cydweithwyr yn dweud:
"Fel seicolegydd, mae cyfrannu at broses newid dros amser yn hynod foddhaol. Mae gallu treulio amser yn cael trafodaethau manwl gan ddefnyddio fframwaith datrys problemau, cynllunio ymyriadau ac yna adolygiad parhaus a phrofion damcaniaethol, yn caniatáu amser i feddwl am seicoleg a'i rhoi ar waith”.
"Ar ôl gweithio fel Seicolegydd Addysg ysgol am nifer o flynyddoedd, roedd symud i weithio mewn cyd-destun gwahanol yn risg, ond mae'r ethos a'r cymorth sefydliadol yn gadarnhaol dros ben. Mae'r cyfleoedd DPP yn rhagorol a rhoddir amser ar gyfer twf a datblygiad."
"Mae gweithio yn y tîm cefnogol hyfryd hwn yn rhoi cyfle i mi fel Seicolegydd Addysg i roi seicoleg ar waith bob dydd, a hynny ar bob lefel wahanol, yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd."
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am Seicolegydd Addysg cymwys sydd wedi’i gofrestru gyda’r CPIG, sy’n bodloni’r canlynol:
- Yn awyddus i ennill profiad o weithio fel seicolegydd cymhwysol yn y gymuned.
- Hoffai ddatblygu gwybodaeth arbenigol wrth weithio gyda theuluoedd yn y Blynyddoedd Cynnar.
- Â diddordeb mewn defnyddio dulliau ymlyniad a pherthynol yn ei ymarfer.
- Yn awyddus i ddefnyddio a darparu goruchwyliaeth i archwilio syniadau a chynnig mewnbwn seicolegol i dîm sefydledig ac ymroddedig.
- Parodrwydd a’r gallu i ddylunio a darparu hyfforddiant a chynnig ymgynghoriad i hyrwyddo ymagweddau ymlyniad a pherthynol yn y Gwasanaeth Cymorth Cynnar ehangach.
Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau gan Seicolegwyr Addysg sydd newydd gymhwyso a gan Seicolegwyr Addysg profiadol a allai fod yn chwilio am rôl neu secondiad proffesiynol newydd. Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i fodloni anghenion teuluoedd sy’n gweithio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Y cyflog yw Soulbury A1-6 ynhyd at 3 APS (£43,483 - £53,995 hyd at £59,807)
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein